Tîm Faust + Greta
Ensemble ifanc yn barod i ddisgleirio ar lwyfan a sgrin.
Rydym ni, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio yn falch o rannu'r aelodau’r ensemble ifanc, y cast a’r tîm creadigol sydd wrthi’n creu eu cyd-gynhyrchiad newydd, Faust + Greta.
Bydd y perfformiad theatr digidol hwn – sy’n cynnig profiad gwylio hollol unigryw – yn cael ei ffrydio’n fyw o Theatr Bryn Terfel, Pontio, ar 18–20 Mehefin 2021.
Ers mis Tachwedd 2020, mae ensemble o bobl ifanc 18–25 oed o ogledd-orllewin Cymru wedi bod yn dod at ei gilydd i ddyfeisio a pherfformio’r cynhyrchiad newydd hwn.
Yn gyd-gynhyrchiad rhyngom ni, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio, mae Faust + Greta yn gynhyrchiad theatr byw sy’n cynnig profiad gwylio hollol unigryw wrth cael ei ffrydio’n fyw o Theatr Bryn Terfel, Pontio, ar 18–20 Mehefin 2021.
Aelodau’r ensemble yw: Cai Dickinson, Lleucu Gwawr, Christie Hallam-Rudd, Carwyn Healy, Elliw Jones, Ifan Pritchard, Beth Robinson, Cedron Sion, Amy Warrington a Rebecca Naiga Williams.
Mae’r aelodau wedi cael cyfle i ymwneud â phob elfen o Faust + Greta, wrth iddyn nhw ymgymryd â’r dasg o lwyfannu cynhyrchiad sy’n cael ei ffrydio’n fyw dan ofal cyfarwyddwyr y cynhyrchiad, Nia Lynn a Gethin Evans.
Yn ymuno â’r ensemble ar y llwyfan mae’r actorion Llion Williams a Sian Owens.
Mae Llion – sy’n ymuno â’r cast fel y cymeriad Hen Faust – yn wyneb cyfarwydd ym myd teledu a theatr Cymraeg, ac yn 2017 fe gyflawnodd y dwbl yng Ngwobrau Theatr Cymru gan ennill y wobr am yr Actor Gorau yn Saesneg ar gyfer Belonging (Re-live) a’r Actor Gorau yn Gymraeg ar gyfer Chwalfa (Theatr Genedlaethol Cymru). Mae Sian wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Iolo, National Theatre Wales a Theatr Clwyd yn y gorffennol.
Mae Sian yn gweithio'n agos gydag Amy Warrington - aelod Byddar o'r ensemble - i integreiddio eu dealltwriaeth a’u gallu o Iaith Arwyddion Prydeinig i mewn i’r cynhyrchiad.
Yn ogystal â manteisio ar y cyfle o weithio gyda’r actorion a’r cyfarwyddwyr arbennig, mae’r ensemble ifanc hefyd yn gweithio ochr yn ochr â thîm creadigol profiadol sy’n cynnwys y canlynol: Elin Steele (Cynllunydd Set a Gwisgoedd); Ceri James (Cynllunydd Golau); Sam Jones (Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain) a Nico Dafydd (Cyfarwyddwr Fideo). Mae bywgraffiadau’r tîm i gyd i’w gweld isod.
Gan ddwyn ysbrydoliaeth o drosiad Cymraeg T. Gwynn Jones o glasur Goethe, bydd Faust + Greta yn cofleidio cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol i gynnig profiad theatr digidol arbrofol, gyda chyfuniad o onglau camera gwahanol ar y sgrin yr un pryd gan roi cyfle i’r gynulleidfa ymgolli ym mhob agwedd o’r stori.
Mae tocynnau i’r profiad digidol hwn bellach ar werth ar-lein: pontio.ticketco.events
*Lluniau gan Kristina Banholzer.