Pay Dd6
17.10.19

Tri cynnig cyffrous i bobl ifanc

Cyfleon theatr bobl ifancOes gennych chi syniad am ddigwyddiad celfyddydol? Ffansi ymuno â hwb cenedlaethol o bobl ifanc i rannu a chreu? Beth am gysgodi tîm artistig Llyfr Glas Nebo a datblygu gwaith eich hun?Dyma’r cyfleoedd sydd ar gael yma i bobl ifanc - ymgeisiwch rŵan!#2020 16 - 25 oed Dyddiad cau: 1 Tachwedd 2019Oes gynnoch chi syniad am ddigwyddiad creadigol ond heb yr amser, y gefnogaeth a’r cyllid i’w wireddu?Dyma gyfle i’r rheiny rhwng 16 – 25 oed i bitsio am £2020 a chefnogaeth i ddod â’ch syniad yn fyw. Breuddwydiwch, mentrwch ac ewch amdani! Mwy o fanylion.HAMLETS 18 - 25 oed Dyddiad cau: 8 Tachwedd 2019Dyma gyfle am ddim i weithio gyda gwneuthurwyr theatr mwyaf deinamig Cymru, i gyfarfod pobl eraill a chreu theatr sy’n cwestiynu pwy yw Hamlet heddiw a beth mae Hamlet yn ei olygu i CHI.Rydyn ni’n rhedeg un o’r Hybiau Hamlets cenedlaethol ochr yn ochr gyda Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug), Canolfan Mileniwm Cymru (Caerdydd) a Canolfan Theatr a Chelfyddydau Glan yr Afon (Casnewydd), a bydd rhain yn dod at ei gilydd i greu’r ensemble mwyaf o Hamlets ifanc a welwyd erioed. Mwy o fanylion.RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID I FERCHED IFANC Merched 18 - 25 oed Dyddiad cau: 28 NovemberMae hwn yn gynllun datblygu gyda thâl – wedi’i dalu ar ffurf bwrsariaeth o £250 yr wythnos.‘Da ni’n chwilio am 3 merch rhwng 18 a 25 oed i gynorthwyo Elgan Rhys (cyfarwyddo), Matt Gough (coreograffi) a R.Seiliog (cyfansoddi) ar ein addasiad llwyfan o Llyfr Glas Nebo.Yn dilyn cyfnod ymarfer Llyfr Glas Nebo bydd y tair yn dod at ei gilydd gyda dramodydd i ddatblygu syniad gwreiddiol mewn wythnos ddatblygu. Bydd cyfle wedyn i rannu’r darn o waith gyda’r potensial i ddatblygu ymhellach. Mwy o fanylion am y rhaglen.Mwy o fanylion am y cyfleon? Cysylltwch â Mari Morgan drwy Facebook, ebost neu ffoniwch 01248 715048.