Pay Dd6
29.03.18

Trafod amrywiaeth a chynhwysiant ym maes celfyddydau’r ieuenctid

Casgliad yn dychwelyd gyda penwythnos o rannu sgiliau rhwng gweithwyr celfyddydau ieuenctid yng NgymruYANC CasgliadBydd Casgliad 2018 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd ar yr 28ain a 29ain o Ebrill. Bydd y penwythnos o weithdai rhyngweithiol a deimanig yn cael ei gynnal am y trydydd tro ac yn croesawu ymarferwyr celfyddydau ieuenctid, myfyrwyr a sefydliadau ar draws Cymru i drafod syniadau a rhoi tro ar sgiliau newydd.Wedi ei drefnu gan Rwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru (YANC), mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gael fel tocyn diwrnod neu penwythnos, gan wahodd aelodau YANC a rhai nad ydynt yn aelodau i ddewis yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw gan gynnwys dosbarthiadau meistr, sgyrsiau a chyfleoedd rhwydweithio.Mae’r digwyddiad dau ddiwrnod yn cynnwys sesiynau gan gwmniau o Gymru gan gynnwys Operasonic a chwmni theatr safle benodol Common Wealth, yn ogystal â dosbarth meistr gan yr ymarferwyr arleosol o Fanceinion a Lerpwl Young Identity a 20 Stories High. Cynhelir y sesiynau rhwng 10am a 7.30pm, gyda chyfle i gymdeithasu gyda’r nos.Bydd Casgliad 2018 yn dod â chyfoeth o dalent, cefndir a sgiliau at ei gilydd - mewn modd ymarferol. Bydd y sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar faterion fel amrywiaeth, cynhwysiant, ymrwymiad a iechyd meddwl o fewn celfyddydau ieuenctid yng Nghymru, ac yn gwahodd y cyfranogwyr i roi y syniadau ar waith.Dywedodd Miranda Ballin, ysgrifenydd YANC a Chyfarwyddwr Artistig ArtWorks, Valleys Kids: “Dyw pobl ddim eisiau siarad siop. Mae nhw eisiau bod mewn sefyllfa lle mae nhw’n gwneud pethau ymarferol. Dyna beth mae ein gweithwyr ieuenctid wedi dweud wrthon ni mae nhw’n caru gwneud - i feddwl am bethau wrth wneud.“Bydd Casgliad eleni yn gyfuniad hyfryd o sesiynau ymarferol a chyfle i rannu sgiliau, yn ogystal â chyfleoedd i siarad a rhwydweithio, ac mae’r fformat yma mewn ymateb uniongyrchol i’r hyn rydym yn gwybod bod pobl yn y maes yma yn caru ei wneud. Mae nhw wrth eu boddau gyda’r syniad y byddant yn dod o’r digwyddiad gyda pethau ymarferol mae modd iddyn nhw roi ar waith.”Mi fydd amrywiaeth yn bwnc llosg yn y digwyddiad eleni. Meddai Sarah Jones, Cadeirydd Bwrdd YANC a Chyfarwyddwr Artistig Mess up the Mess fod hyn yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb sydd yn mynychu.“Fel ymarferwr, mae ynglyn â sicrhau bod y gwaith rydych yn ei wneud ac yn darparu yn cyrraedd amrywiaeth y gymuned rydych yn ei wasanaethu.“Er enghraifft, yn Rhydaman, lle mae Mess up the Mess wedi sefydlu, mae’n golygu cynnwys pobl ifanc traws, pobl ifanc sydd yn ystyried eu hunan yn anneuaidd, pobl ifanc gydag anableddau, pobl ifanc BAME (pobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig), pobl ifanc sydd yn siarad Cymraeg a phobl ifanc sydd yn siarad Saesneg."Mae Casgliad i bawb. Bydd Casgliad 2018 yn ddwyieithog, yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac unrhyw fath o gymorth i symud, yn ogystal ag isdeitlau ar gyfer y rhai sy’n fyddar ac yn drwm eu clyw. Cysylltwch â YANC i nodi eich gofynion cyn y digwyddiad.Mae Tocynnau i Casgliad 2018 rhwng £5 a £60, ac ar gael i’w archebu ar yanc.co.uk. Mae aelodau YANC yn derbyn gostyngiadau i ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Mae Casgliad yn croesawu diddordeb a mynychwyr o sefydliadau sydd yn edrych ar sut i fod yn rhan o gelfyddydau ieuenctid yng Nghymru.