Baner Unnos Steddfod26
03.08.26

Theatr Unnos yn Steddfod y Garreg Las

12 artist wedi eu cyhoeddi ar gyfer yr her creu theatr 24 awr

10 mlynedd yn ddiweddarach ac mae Theatr Unnos yn ôl yn yr Eisteddfod.

Mae her creu theatr 24 awr yn dod â chrëwyr theatr, artistiaid a pherfformwyr at ei gilydd. Dim paratoi. Dim cynllun.

Bydd yr artistiaid yn derbyn her ar y dydd Mercher (05 Awst) a bydd ganddynt 24 awr i greu. Yn gyflym.

Byddant yn rhannu darn 30 munud o hyd gyda chynulleidfa mewn noson braf ac egnïol yng Nghaffi Maes B am 8pm ar y nos Iau (06 Awst) ar faes yr Eisteddfod.

Yr artistiaid sy'n cymryd rhan yn her eleni yw:

  • Alys Letton-Jones
  • Rolant Tomos
  • Mark Henry Davies
  • Cati Rhys
  • Iza Jem
  • Huw Blainey
  • Roisin Ann
  • Simon Watts
  • Emma Mace
  • Catrin Mai Edwards
  • Rhodri Trefor
  • Beca Llwyd