Pay Dd6
28.02.19

Taith Anweledig

Yn 2012 derbyniodd y cwmni wahoddiad gan yr Athro David Healy, Seiciatrydd nodedig yn ei faes, i drafod gwaith ymchwil oedd yn dogfennu profiadau cleifion iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru o ganol yr 19eg ganrif hyd at gychwyn yr 20fed ganrif.Gobaith yr Athro David Healy oedd i’r gwaith ymchwil hwyluso gweithgaredd celfyddydol fyddai yn y pen draw yn herio’r stigma cymdeithasol sydd ynghlwm â salwch iechyd meddwl gan edrych ar brofiadau hanesyddol yng nghyd-destun y presennol. Dyma gychwyn taith ‘Anweledig’.Cam cyntaf y broses greadigol oedd comisiynu Aled Jones Williams. Roedd yn ddewis naturiol oherwydd ei barodrwydd a’i ddewrder i dreiddio i feysydd tywyll gyda sensitifrwydd ac, yn aml, hiwmor. Mae ei allu i drin geiriau a’i ddefnydd trawiadol o ddelweddau theatrig yn ysgwyd y gynulleidfa ac yn creu cynyrchiadau ysgytwol. Rhoddwyd rhyddid i Aled ddehongli’r gwaith ymchwil yn ei ffordd ei hun yn hytrach nag ail-greu cofnodion hanesyddol yn slafaidd.[caption id="attachment_3935" align="alignleft" width="300"]Anweledig: Rhan 1. Llun gan Keith Morris. Rhan 1af Anweledig yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013.[/caption]Rhannwyd y rhan cyntaf o’r fonolog yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013, ac yn dilyn ymateb ysgubol i berfformiadau ysgytwol Ffion Dafis datblygwyd y gwaith ymhellach drwy gomisiynu ail ran. Cafwyd cyfle i rannu’r sgript lawn mewn dehongliad unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018.Mae wedi bod yn fraint rhannu datblygiad y cynhyrchiad gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Heb os, mae’r ymateb gonest a didwyll iddi wedi dylanwadu’n sylweddol at Y broses o greu’r cyfanwaith terfynol.DYDDIADAU TAITH ANWELEDIGCanolfan Celfyddydau Aberystwyth 05.03.19 - 08.03.19Sherman Theatre, Cardiff 12.03.19 & 13.03.19Theatr y Ffwrnes Llanelli 18.03.19 - 21.03.19Stiwt Rhosllanerchrugog 26.03.19 - 27.03.19