Pay Dd6
11.12.20

TA TA 2020

Wel, am flwyddyn!

Dechreuodd hi gyda chlec ôl-apocalyptaidd enfawr diolch i Llyfr Glas Nebo. Perfformiwyd ein haddasiad o ffenomenon lenyddol Manon Steffan Ross mewn 11 lleoliad i 8,498 o bobl ledled y wlad, a gwerthu 91% o'r tocynnau (cyfartaledd y DU yw 61%).Yna ym mis Mawrth, trodd byd tywyll Llyfr Glas Nebo yn realiti wrth i'r wlad gyfan gael ei roi dan glo’r feirws a ledodd drwy’n cymunedau.Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer, a neb llai na phobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru ac ein hartistiaid llawrydd. Wynebodd y cwmni benderfyniad anodd - oedi ac aros nes i bethau wella neu bod yn greadigol a gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud orau drwy ddarganfod ffyrdd newydd o gefnogi a chreu. Aethom ati ar unwaith i gomisiynu artistiaid, cyd-weithio’n greadigol gyda phobl ifanc, cysylltu trwy ffyrdd newydd a buddsoddi amser ac adnoddau i ddatblygu gwaith newydd sy'n rhoi pobl ifanc a Chymru wrth wraidd y gwaith.Rydym wedi creu partneriaethau strategol cyffrous yn ystod y flwyddyn gyda sefydliadau fel GISDA ac adrannau cefnogol yr awdurdodau lleol er mwyn estyn allan a gweithio gyda chymunedau o bobl ifanc sy'n anodd eu cyrraedd. Mae ein prosiect celf a llesiant Fi Di Fi wedi rhoi cyfle i ni gydweithio gyda gofalwyr ifanc, ffoaduriaid a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na gwaith gan ddefnyddio'r celfyddydau fel cyfrwng i wella hunan hyder, uchelgais a gwytnwch ein pobl ifanc, sydd heb os wedi bod yn bwysicach nag erioed wrth wynebu heriau'r pandemig.Diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn, comisiynwyd 7 darn newydd o waith a gan gyflogi 109 o artistiaid llawrydd eleni.Y cyntaf i ddwyn ffrwyth oedd sioe digidol cyntaf erioed Cwmni Ifanc Frân Wen gafodd ei ffrydio’n fwy a’i wylio gan dros bedair mil o bobl. Wedi'i enwi 120960 ar ôl y nifer o funudau ers i achos cyntaf COVID-19 gael ei gadarnhau, hanfod y sioe oedd archwiliad o fywyd person ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo.Mae Cwmni Ifanc Frân Wen yn blatfform i drafod, cysylltu a mynegi. Wrth archwilio pynciau fel 'fake news', 'doomscrolling' a '#overrated', mae’r aelodau eisoes wedi bod yn gweithio ar gynlluniau epig ar gyfer eu cynhyrchiad nesaf o dan arweinyddiaeth ein Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc newydd, Nia Haf!Trwy gydol yr haf, gwnaethom barhau â Llwybrau Llachar yn ddigidol, ein rhaglen ar gyfer artistiaid ifanc ag anghenion ychwanegol a gefnogir gan BBC Plant Mewn Angen. Drwy gynnal 5 prosiect yn flynyddol rydym yn cynnig cyfleon i artistiaid ifanc weithio gydag artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu crefft yn eu maes diddordeb celfyddydol. Datblygiad cyffrous eleni oedd i ni ehangu’r prosiect i sefydlu cwmni ifanc newydd sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu gwaith ar y cyd gan ehangu rhwydwaith cymdeithasol yr artistiaid ifanc.Ym mis Mehefin, lansiwyd rhaglen artistig newydd sy'n cynnwys cydweithio gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr y Sherman, Llenyddiaeth Cymru a Pontio, a rhai o artistiaid mwyaf cyffrous a beiddgar Cymru. Dyma ein rhaglen fwyaf cydweithredol erioed, sy’n rhoi pobl ifanc Cymru wrth galon pob prosiect a chynhyrchiad.Mae Faust + Greta yn gynhyrchiad rhyngweithiol sy'n dod â chwmni o bobl ifanc 18 - 25 oed ynghyd i archwilio'r clasur Almaeneg am ddyn sy'n gwerthu ei enaid i'r diafol. Mae'r ensemble ifanc wedi bod yn dyfeisio gyda’r amryddawn Nia Lynn, Cyfarwyddwr Creadigol, ers mis Hydref a byddant yn parhau i ddatblygu’r sioe nes iddi gael ei llwyfannu ym mis Ebrill 2020 yn Pontio, Bangor.Mae cynyrchiadau eraill yn prysur ddatblygu tu ôl i'r llenni sef Popeth ar y Ddaear - cyfuniad uchelgeisiol o 'spoken word', cerddoriaeth a theatr sy'n archwilio ymateb unigolion pan fo’u rhyddid a’u hewyllys rydd yn cael eu cymryd oddi arnynt o ganlyniad i argyfwng amgylcheddol catastroffig; Branwen - sioe gerdd gyfoes ac anarchaidd yn seiliedig ar un o'n hoff chwedlau; a Diwrnod Arall, cyfuniad trydanol o theatr byw a cherddoriaeth bop fydd yn herio’r cwest am annibyniaeth. Rydyn ni'n edrych ymlaen i rannu'r gwaith gyda chi flwyddyn nesaf!Testun balchder arall yn ystod y flwyddyn oedd ein gwaith gydag artistiaid ifanc fel rhan o'n rhaglen Datblygu Artistiaid. Ymhlith yr uchafbwyntiau eleni roedd sefydlu grŵp ‘Sgwennu Newydd mewn partneriaeth gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru, a rhyddhau Tra'n Aros gyda'r artistiaid ifanc Hafwen Hibbard a Lauren Connelly (ewch draw i'n sianel YouTube i weld ffrwyth eu llafur).Ni allwn ffarwelio â 2020 heb sôn am y gwaith o ddatblygu ein cartref newydd Nyth. Gyda phobl ifanc yn arwain y ffordd, rydym wedi cwblhau’r gwaith dylunio cychwynnol yn llwyddiannus, ac os aiff popeth yn ôl y disgwyl, byddwn yn symud i'r cam adeiladu yn ystod Gwanwyn 2021. Rydym wedi manteisio ar bob cyfle i ddylanwadu’n greadigol i’r broses ddylunio drwy gynnal prosiect cymunedol Nythu a thrwy gydweithio gydag artistiaid o Gymru ar gomisiynau celf sydd wedi eu hintegreiddio i ddyluniad yr adeilad.Wrth i ni baratoi i ffarwelio â 2020, edrychwn yn ôl â balchder yn yr hyn yr ydym wedi llwyddo i’w gyflawni gyda chefnogaeth ein harianwyr, artistiaid talentog a’n pobl ifanc anhygoel ac edrychwn ymlaen at 2021 gyda thân yn ein boliau, gobaith a chyffro.