Faust Greta
25.11.22

Swydd newydd: Technegydd

Swydd gyffrous efo ni!

‘Da ni’n chwilio am berson egnïol a brwdfrydig i ymuno â thim technegol Frân Wen ar drothwy cyfnod newydd o ymgartrefu yn Nyth, cartref newydd y cwmni ym Mangor.

Cyflog: £21,696 - £26,400
Dyddiad cau: 12pm, 09 Rhagfyr 2022
Cyfweliadau: 15 Rhagfyr 2022

Oes gennyt ti:

  • Brofiad o weithio fel technegydd mewn amgylchedd theatr / gelfyddydol prysur.
  • Profiad o weithio ar greu theatr boed yn broffesiynol neu yng nghyd-destun cyfranogi ac ymgysylltu gyda phobl ifanc a’r gymuned.
  • Ymwybyddiaeth o systemau sain, goleuo ac AV.

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys gwireddu elfennau technegol cynyrchiadau a phrosiectau y cwmni gan gynnwys:

  • Gosod a dad-osod setiau
  • Gweithredu offer technegol.
  • Rigio sain, goleuo ac AV.

Diddordeb?

Os hoffet drafod y swydd wrth baratoi cais, cysylltwch â Lewis Williams, Rheolwr Cynhyrchu a Thechnegol Frân Wen drwy lewis@franwen.com.