Faust a Greta 2020 gan Frân Wen
29.06.21

Swydd newydd: Rheolwr Cynhyrchu a Thechnegol

Rydym yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu a Thechnegol i helpu ni greu theatr dewr gyda ac ar gyfer pobl ifanc.

Cyflog: £27,521 – £37,033
Dyddiad cau: 12pm, 16 Gorffennaf 2021
Cyfweliadau: W/C 19 Gorffennaf 2021

Oes gennych chi:

– Brofiad o weithio mewn amgylchedd theatr / gelfyddydol prysur.
– Profiad o weithio ar greu cynnyrch theatrig.
– Sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
– Sgiliau amserlennu a chynllunio rhagorol.
– Sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
– Sgiliau technoleg gwybodaeth da.

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys:

– Rheoli Cynhyrchu
– Iechyd a Diogelwch
– Rheoli a chynnal asedau a systemau

Diddordeb?

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm yn y cyfnod mwyaf cyffrous yn hanes Frân Wen, lawrlwythwch y pecyn swydd yma:

PECYN SWYDD
FFURFLEN CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH