*WEDI CAU* Chwilio am dîm codi arian.

Mae Frân Wen yn awyddus i benodi ymgynghorydd neu dîm o ymgynghorwyr gyda phrofiad helaeth o godi arian o fewn sector y celfyddydau, a datblygiadau cyfalaf yn benodol, i gydweithio â nhw i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.Yn dilyn cwblhau Astudiaeth Dichonolrwydd llwyddiannus, mae Frân Wen yn awyddus i ddatblygu Strategaeth Codi Arian gwydn, realistig a chyraeddadwy ar gyfer cyflawni eu datblygiad cyfalaf arfaethedig ‘Nyth’.Croesewir ceisiadau erbyn 14 Mai 2018 a dylid eu cyflwyno drwy’r porth Gwerthwch i Gymru.
Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen Strategaeth Codi Arian Sell2Wales.Y ffi ar gyfer y gwaith yw £15,000 ag eithr TAW.Cynhelir cyfweliadau ar 18 Mai 2018.