Pay Dd6
18.10.16

Sgwrs gyda Nansi (Cêt Haf)

Y ddawnswraig/perfformiwr Cêt Haf o Aberystwyth sy'n chwarae rhan Nansi yn Dilyn Fi - sioe i blant dan 7 sy'n dilyn antur merch fach wrth iddi ymdopi â brawd bach newydd.Yn yumuno â hi ar y llwyfan mae ei ffrind gorau Cai (yr actor Elgan Rhys o Bwllheli), ac ef sy'n ei hannog i fynd ar antur i Affrica i chwilio am eliffantod go iawn.theatr, cymraeg, plant, sioeSut fath o berson sy'n mynd i fwynhau'r sioe? Rhywun sy'n barod i ymgolli mewn antur.Be ti'n garu am dy gymeriad, Nansi?Mae hi mor chwareus! Mae hi'n gallu darganfod hwyl ym mhopeth, boed o'n hen gês simsan neu ddarn o fflwff bach ar y llawr.Heb roi'r gêm i ffwrdd, be' di dy hoff ddarn o'r sioe?Pan mae Nansi a Cai yn clywed... rymblo mawr (a dim stumog Cai ydi o!).Esbonia dy ddydd Sul delfrydol?Mynd am dro hir a throellog ar hyd yr arfordir yn yr awyr iach o Hydref gyda phicnic yn fy mag, a fflasg o siocled poeth hyfryd!Ffon hyd yn dy law, be' ti'n wneud nesa'?Sioe hyd! Byddai Peter Pan yn dda, faswn i ddim yn meindio bod yn fôr-forwyn.Y peth diwethaf ti'n wneud cyn mynd ar lwyfan?Dwi'n cymryd sip o ddŵr, anadl mawr, rhoi cwtch mawr pob lwc i fy nghyd-berfformiwr - ac wedyn gwneud gwich sgwigli gwirion trwy fy nheg!Dilyn Fi. 20 Hydref - 26 Tachwedd 2016. Wyddgrug, Pwllheli, Wrecsam, Llangadfan, Llangefni, Llandudno, Caernarfon, Caergybi, Harlech, Y Bala, Drenewydd, Aberystwyth, Caerfyrddin, Pontardawe, Abertawe, Llanelli, Pontypridd, Caerdydd, Merthyr Tuful, Bangor