Pay Dd6
17.11.16

Sgwrs gyda Cai (Elgan Rhys)

Yr actor Elgan Rhys o Bwllheli sy’n chwarae rhan Cai yn Dilyn Fi – sioe i blant dan 7 sy’n dilyn antur merch fach wrth iddi ymdopi â brawd bach newydd.

Yn yumuno â fo ar y llwyfan mae ei ffrind gorau Nansi (y ddawnswraig/perfformiwr Cêt Haf o Aberystwyth) - mae Cai yn ei hannog i fynd ar antur i Affrica i chwilio am eliffantod go iawn.theatr, cymraeg, plant, sioeSut fath o berson sy'n mynd i fwynhau'r sioe? Person sydd â chalon. Felly pawb! Mae rhywbeth i bawb yn y sioe, a does dim amheuaeth y gwnaiff pawb uniaethu ryw ffordd neu'i gilydd.Be ti'n garu am dy gymeriad, Nansi?Dwi'n caru caredigrwydd Cai.Heb roi'r gêm i ffwrdd, be' di dy hoff ddarn o'r sioe?Dwi wrth fy modd yn teithio gyda Nansi (Cêt Haf) ac ymgolli yn y byd newydd.Esbonia dy ddydd Sul delfrydol?Tywydd braf, lan y môr, dip yn y môr, am dro ar y tywod, a hynny i gyd efo teulu neu ffrind/iau agos - a gin a tonic!Ffon hyd yn dy law, be' ti'n wneud nesa'?Matilda the Musical. A finnau'n chwarae rhan Matilda!! Wastad wedi eisiau bod mor glyfar a hudolus â hi.Ar nodyn o ddifri, swni'n hoffi neud sioe gyda phobl ifanc sydd mewn cartref gofal ac yn ymchwilio'r gair 'gofal'.Y peth diwethaf ti'n wneud cyn mynd ar lwyfan?Ar gyfer Dilyn Fi y peth diwethaf dwi a Cêt yn gwneud ydi dweud... "Dweud y stori, am y tro cyntaf, gyda'n gilydd." Fel arall, dwi'n gwneud yn siŵr bo' fi wedi bod i'r toiled!*Mae Dilyn Fi yn teithio i Gaerdydd, Merthyr Tudful a Bangor hyd at 26 Tachwedd 2016*