Cynllun ysgrifennu a chyfarwyddo newydd gan Frân Wen gyda chefnogaeth Yr Urdd a Llenyddiaeth Cymru yw Sgript i Lwyfan.Mae’r cynllun yn cyflwyno dramodwyr ifanc i’r grefft o ysgrifennu sgript, eu mentora dros gyfnod o amser estynedig i finiogi eu sgiliau a’u cyflwyno i’r broses o drosglwyddo’r gwaith i dîm creadigol ehangach er mwyn gwireddu eu gweledigaeth theatrig.Datblygiad cyffrous eleni yw cynnig mentoraeth i gyfarwyddwyr ifanc fydd yn cydweithio gyda’r dramodwyr i lwyfannu eu gwaith.Ymunwch â ni ar gyfer darlleniadau cyntaf y cynllun 2019 sy'n yn cael ei berfformio gan yr actorion Leah Gaffey, Rhys Ap Trefor, Lois Elenid a Carwyn Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd (Tipi Syr Ifanc) ar ddydd Gwener, 31 Mai am 2.30pm.Dyma gyflwyno'r 6 sy'n rhan o'r cynllun eleni.
SGWENNWYR

ENW: Esyllt Lewis
TEITL Y SGRIPT: Gwladys, GwladysSYNOPSIS
Gwelwn fachgen ifanc yn dechrau yn y brifysgol ar ôl cael profiad trawmatig. Daw hen wraig i’w fywyd gan helpu iddo ymdopi. Drama sy’n archwilio datblygiad perthynas gwraig oedrannus braidd yn nyti, a dyn ifanc swrth, yn troedio rhwng swrealaeth a gwirionedd.PAM 'SGWENNU?
Dwi’n sgwennu er mwyn deall mwy am y byd ac arbrofi gyda chymeriadau, a chael cyfle i chwarae gyda geiriau a bod yn sili!

ENW: Martha Davies
TEITL Y SGRIPT: DeiniolSYNOPSIS
Cawn weld sut effaith all colli person arbennig ei gael ar berthynas rhwng llys dad a llys fab.PAM 'SGWENNU?
‘Dwi wedi dewis ‘sgwennu sgript i lwyfan fel sgriptiwr oherwydd mae o ddiddordeb i mi ac mae’n gyfle gwych i ddatblygu fy hun a fy nghrefft gyda phobl broffesiynol, cael cyfle i lwyfannu fy ngwaith a chasglu adborth.

ENW: Llio Alun
TEITL Y SGRIPT: Nain, Mam, JenSYNOPSIS
Mae’r darn yn trafod galar, ac yn enwedig y golled o aelod canolog i’r teulu. Drama yn dilyn merch yn ei harddegau sydd wedi colli ei Nain, sydd yn brofiad sydd yn siapio person, fel digwyddodd i fi.PAM 'SGWENNU?
Dwi’n sgwennu gan fy mod gen i angerdd dros ddweud straeon.

ENW: Lleucu Non
TEITL Y SGRIPT: ChdiSYNOPSIS
Mae Elen a Caleb wedi bod yn ffrindiau gorau erioed. Ond, mae Caleb yn teimlo mwy na chyfeillgarwch tuag at Elen. Wrth i Elen wynebu rhwystr o’i blaen am ei dyfodol, a fydd Caleb yn gallu gwneud iddi deimlo’n well a chyfaddef ei deimladau tuag ati?PAM 'SGWENNU?
Rydw i wedi bod yn ysgrifennu ers rydw i’n ifanc oherwydd mae ysgrifennu’n rhoi’r cyfle imi allu adrodd fy storïau/syniadau i drwy gymeriadau sy’n golygu llawer i mi.
CYFARWYDDWYR

ENW: Ffion Angell
TEITL Y SGRIPT: Dianc o'r DreSYNOPSIS
Darn dyfeisiedig gwreiddiol yw Dianc o’r Dre. Mae bywyd Ruth yn ddigon cymhleth heb i noson allan gael ei sbwylio gan ei chyn gariad yn rhannu llun noeth ohoni. Ond dros 20 chicken nuggets bydd ei noson yn newid am y gorau.PAM CYFARWYDDO?
Mae cyfarwyddo darn gwreiddiol yn rhywbeth sydd wir yn fy nghyffroi, cael gweld darn yn dod yn fyw ar ôl y gwaith caled.

ENW: Lauren Connelly
TEITL Y SGRIPT: GwagleSYNOPSIS
Wedi ei ysgrifennu gan Branwen Davies, mae’r darn yn archwilio effaith corfforol a meddyliol mae salwch meddyliol yn gael ar berson; yn benodol unigedd dyn yn
brwydro salwch meddyliol mewn cymdeithas sy’n gwthio’r syniad o 'wrywdod'.PAM CYFARWYDDO?
Rwy’n hoffi cydweithio a chreu gyda phobl wahanol - credaf ei bod yn bwysig ‘agor sgyrsiau’ yn y gymdeithas er gwell y dyfodol.