Pay Dd6
22.03.19

Seiliau dros manifestos

Screen Shot 2019-03-22 at 11.29.31Dydd Gwener, 29 Mawrth 2019 10am - 4pm Frân Wen, Porthaethwy LL59 5HS COFRESTRUMae Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru y Gogledd a'r Canolbarth yn falch o groesawu'r artist rhyngddisgyblaethol adnabyddus Sarah Calmus i Ogledd Cymru.Mae'r artist o Gaeredin, gyda'i gwaith yn amrywio o osodiadau golau ar raddfa fawr i ymyriadau cymdeithasol nomadig, yn cynnal gweithdy arbennig ar sgiliau goroesi i artistiaid sy'n archwilio'r syniadau o gydweithredu, grymuso ar y cyd ac undod o fewn y celfyddydau.Bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael.Mae'r gweithgareddau yn cynnwys:
  • Sgwrs holi ac ateb gyda Sarah Calmus
  • Gweithdy symudol yn archwilio cryfder y corff
  • Creu maniffesto mewn grŵp; Maniffesto y Gweithwyr Llawrydd
  • Mini-Maniffesto - cyfranogwyr i drafod eu gweledigaeth o iwtopia yn y diwydiannau celfyddydol.
[gallery ids="3984,3985,3986,3987,3975"]Wedi ei greu i weithwyr llawrydd, artistiaid a'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiannau celfyddydol, mae'r gweithdy yn archwilio undod drwy lens cydweithredol, maniffesto, symudiadau perfformiadol a thrafodaethau grŵp. Yn ogystal, mae'n addas i unrhyw un sydd am archwilio syniadau o undod mewn cyd-destun celfyddydol.Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn ymgynghoriad creadigol Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru ‘Breuddwydiwch ac Adeiladwch’ - gan greu cynlluniau ar gyfer y Celfyddydau Ieuenctid yng Nghymru i'r dyfodol.Am wybodaeth bellach cysylltwch â nia@franwen.comMae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM (10am - 4pm, dydd Gwener, 29.03.19) - Archebwch eich lle ar-lein nawr.