Pay Dd6
24.11.14

SBRI2 ...yng ngeiriau'r cerddorion

Poster SBRI 2Mae sioe deulu Nadoligaidd Sbri2 yn frith o ganeuon poblogaidd Cymraeg. Mae'r Frân Wen wedi cysylltu gyda cherddorion y caneuon gwreiddiol i'w holi amdanynt. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cyhoeddi'r holl ymatebion yma ar ein blog.Osian Candelas - Cofia bo fi'n rhydd"Ma'n wych fod Sbri 2 wedi dewis ein cân ar gyfer y sioe! Ma' hi'n braf gweld fod pobl o bob oedran yn mwynhau ein cerddoriaeth, a gobeithio fod pawb yn y sioe yn mwynhau ei chanu!Y gân yma ydi'r un sydd yn cael ei chwarae pan mae angen codi ysbryd cynulleidfa mewn gig. Os da ni'n gweld y dorf yn mynd i gysgu mymryn, mae 'Cofia Bo Fi'n Rhydd' yn dod allan i'w deffro, a ma'n gweithio....fel arfer!!"Arwel Gildas - Gorwedd yn y blodau"Wrth fy modd fod fy nghaneuon yn cael eu defnyddio mewn prosiectau cyfredol fel hyn gyda pobl ifanc, braf gwybod bo na rhywfaint o iws i nghaneuon i.Mae'r gân yma yn cyfleu teimladau o hapusrwydd i mi, dyna oedd y bwriad pan neshi ei sgwennu hi beth bynnag, cân disgyn mewn cariad go iawn. Oddi ar fy albwm gyntaf felly mae'n gân bwysig i mi hefyd. Ma hi dal yn rhan amlwg o'm set byw i hefyd."Meilir Gwynedd - Sibrydion - Disgyn amdanat ti Dw i'n meddwl bod o'n wych bod pobl ifanc yn canu hen gan fel hon - fe wnes i ysgrifennu'r gan tua 10 mlynedd yn ol. Pobl ifanc sy'n cario'r caneuon hyn ymlaen, felly gret eu bod nhw'n cael cyfle i'w chanu.Roedd hon yn un o'r caneuon cyntaf i mi ei hysgrifennu i Sibrydion - pan oeddwn i tua 22, felly mae hi'n golygu lot i mi. Fe ysgrifenais hi pan roedd 'na lawer o newidiadau yn fy mywyd.Mae llawer o bobl yn meddwl amdani fel can serch. Mae wedi cael ei defnyddio fel y ddawns gyntaf mewn llawer o briodasau. Mae'r gan yn son am ddisgyn allan o gariad a nol mewn cariad.Endaf Emlyn - Paranoia Diolch i'r cwmni am fentro perfformio Paranoia. Mae'r gan yn dod oddiar CD "Dawnsionara" sydd yn gasgliad 'dinesig' o ganeuon, gan un sydd yn alltud o'i fro ac yn troi tuag at y byd tu draw i'r ffin. Felly pryderon y byd trefol, lle mae'r trigolion anyhysbys heb na theulu na gwreiddia, heb gymdeithas i'w cynnal, yn diodda'r 'ofna afresymol', yr angst dinesig. Ofn colli hunaniaeth yn y dorf. Mae hefyd yn mynegi pryderon yr unigolyn yn y byd niwcliar, gan un sy'n cofio argyfwng taflegrau Ciwba. Rhyw betha siriol felly oedd yn fy meddwl! Nadolig hapus i chi serch hynny!Edward H Dafis - Dewch at Eich Gilydd, Hefin Elis'Dewch at eich gilydd' ydi cân ola'r albym 'Plant y fflam' (albym ola'r band) ac fel mae'r teitl yn awgrymu, anogaeth sydd yma i unigolion beidio â thynnu'n groes i'w gilydd a dilyn eu trywydd eu hunain ond yn hytrach i gydweithio er mwyn cyflawni rhywbeth gwell, mwy parhaol nag uchelgais bersonol. "Cladda dy gleddyf a ffarwelia â chwant; chwala y muriau llwyd tu ôl i ddrws dy 'mennydd, clyw rym y geiriau ddaw o enau y plant - dewch at eich gilydd yn gytûn"Elin Fflur - 'Er Cof am eni'r Iesu' gan Owain Gethin DaviesDw i'n meddwl ei fod o'n gret bod pobl ifanc yn canu'r gan. Mae'n gan mor hyfryd. Mae'r ffaith fod pobl ifanc yn cael canu'r gan a chyfleu'r geiriau yn wych. Mae yna neges cryf yn y gan i gofio am bwysigrwydd y Nadolig. Ganais i'r gan yma gyntaf flynyddoedd maith yn ol. Mi faswn i'n licio bod yno i glywed y bobl ifanc yn ei chanu.Dyfrig Evans o Topper - Hapus I ddechra' gai jyst diolch i chi fel cwmni am ddewis Hapus fel un o'r caneuon yn eich cynhyrchiad diweddaraf!!! Ma'n golygu gymaint I mi, yn arbennig gan fod y to ifanc wedi cael eu cyflwyno i Topper, sydd yn rhan pwysig iawn yn fy mywyd. Bwriad Topper oedd i ddiddanu pobol, ac os ydi hynny'n parhau yn sgil prosiectau fel Sbri, mae hynny yn fy ngwneud i'n ddyn 'hapus' iawn!!! Diolch.Can syml iawn iawn ydi 'Hapus'. Mi wnes i ei chyfansoddi nol yn 1997. Mae'n debyg mai can serch ydi hi yn y bon. Ar y pryd mi oedd yna ferch hynod olygus yn rhan o fy mywyd ac yn wir yn gwneud i mi deimlo'n hapus. Dwi'm yn credu bod mwy i'w ddweud na hynny.