Pay Dd6
18.03.16

Rhowch eich stamp ar Gaernarfon

Screen Shot 2016-03-18 at 15.21.02Mae Stiwdio Frân Wen yn gwahodd unigolion o ardal Gaernarfon sydd rwng 16 – 25 mlwydd oed i gofrestru am y cwrs proffesiynol 5-wythnos mewn dylunio i’r rhyngrwyd, graffeg symudol, golygu fideo a dylunio graffeg.Mae'r cwrs yn cyd-fynd a phrosiect adfywio cyffrous newydd yng Nghaernarfon.Yr arbenigwr cyfryngau digidol Rob Spaull fydd yn gyfrifol am redeg y stiwdio:“Mae’r model yn wahanol iawn i gyrsiau traddodiadol oherwydd fe fyddwn yn gweithredu fel stiwdio cyfryngau digidol proffesiynol gyda cleient a gwaith go iawn – a’r cyfle i roi eich STAMP ar brosiect cyffrous yng Nghaernarfon," meddai Rob.Mae'r cwrs yn cychwyn ar ddydd Llun, 18 Ebrill, am 5 wythnos. Bydd costau teithio yn cael eu cynnwys.Am fwy o fanylion neu i ymgeisio cysylltwch: info@stiwdiofranwen.co.uk neu 01248 715048