Prosiect ysgolion i wella iechyd meddwl
Mae dros 90 o ddisgyblion Ysgol Glan y Môr, Pwllheli wedi cymryd rhan mewn prosiect iechyd meddwl celfyddydol newydd yr wythnos ddiwethaf (Ebrill 13-15).Defnyddio'r celfyddydau er mwyn annog pobl ifanc i ddeall pwysigrwydd lles yw thema Fi Di Fi, rhaglen sy’n cael ei redeg gan gwmni theatr Frân Wen mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd a chefnogaeth Yr Urdd.Treuliodd yr artist Gwennan Mair Jones, dawnsiwr Cêt Hâf, gwneuthurwr ffilmiau Osian Williams, cerddorion Branwen Williams a Gruff Ab Arwel a'r actor / cyfarwyddwr Martin Thomas dridiau yn yr ysgol yn cynnal gweithdai rhyngweithiol aeth i'r afael â materion megis hyder, lles ac iechyd."Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd meddwl felly rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol megis dawns, cerddoriaeth a pherfformio i helpu i gyflwyno'r neges," meddai Gwennan, sy'n Swyddog Cyfranogi i Frân Wen."Buom yn gweithio'n agos gyda'r ysgol a disgyblion blwyddyn 9 er mwyn eu hannog i siarad am eu teimladau ac i ddangos empathi tuag at eraill."Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Llinos Griffith, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Glan y Môr: "Ochr yn ochr â'r llwyddiant academaidd, rydym yn credu bod y gwaith o ddatblygu cymeriad, gwydnwch ac iechyd meddwl da yn bwysig wrth arfogi ein disgyblion gyda'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eu potensial."Ychwanegodd Gwennan: "Rydym yn awyddus i ledaenu’r neges. Mae gymaint o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma, gyda chyfryngau cymdeithasol ac arholiadau. Mae ymarfer y meddwl yr un mor bwysig ag ymarfer y corff."
[gallery_bank type="images" format="thumbnail" title="true" desc="false" responsive="true" display="all" sort_by="random" animation_effect="" album_title="true" album_id="3"]