Prosiect perfformio stryd arloesol i ymwelwyr Gwynedd
Mae Frân Wen yn arwain ar brosiect newydd i dreialu dull newydd a fydd yn cyflwyno iaith a diwylliant i ymwelwyr i Wynedd drwy berfformiadau artistig.Cyflawnir hyn drwy weithio gyda 5 o israddedigion celfyddydau perfformio a sefydlu cwmni theatr arddull “pop-up” a fydd yn darparu ystod o berfformiadau dros fisoedd yr haf.Mae twristiaeth yn gyflogwr mawr yng Ngwynedd ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi. Fodd bynnag, anaml iawn y rhoddir llwyfan i iaith a diwylliant y rhanbarth o fewn y diwydiant, oherwydd efallai nad yw’r rhain yn cael eu hystyried o werth economaidd gwirioneddol. Mae hyn yn cyfateb i’r her a nodwyd yn Strategaeth Datblygu Leol Gwynedd, sef nodi ffyrdd o ychwanegu gwerth at iaith a diwylliant.Am rhagor o fanylion neu i ddatgan diddordeb am gwaith theatr yng Nghymru.