Prosiect newydd Brain: Chwarel
Mae’r cwmni theatr Cwmni’r Frân Wen yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc fel rhan o gynllun cyfranogol newydd i gyd-fynd a chynhyrchiad cyntaf ar lwyfan Pontio.Mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru â Pontio, bydd y cwmni yn cynnal prosiect o’r enw Chwarel sy’n seiliedig ar Chwalfa, sef cynhyrchiad agoriadol Theatr Bryn Terfel, Pontio.“Cam cyntaf y cynllun yw cynnal sesiynau ‘sgwennu, cynllunio, technoleg, perfformio a marchnata dan arweiniad artistiaid proffesiynol a phrofiadol. Bydd y sesiynau hyn yn esgor ar gyfnod o ymarferion a hyfforddiant pellach gyda’r bobl ifanc, gyda llwyfaniad o’u gwaith yn digwydd diwedd mis Gorffennaf,” meddai rheolwr Chwarel, Ffion Haf Jones.Nod y cynllun yw dod o hyd i bobl ifanc brwdfrydig sydd â diddordeb yn y celfyddydau, ac sy’n dymuno cyfrannu at waith cyffrous ac arloesol o ddiddordeb i bobl ifanc Cymru. Bydd y cynllun yn rhoi’r cyfle iddynt rannu syniadau ac i gael eu mentora gan staff profiadol Cwmni’r Frân Wen, Theatr Genedlaethol Cymru ac artistiaid proffesiynol.[youtube=https://www.youtube.com/watch?v=HBdSXUFSGc4]Un o gyfranwyr arbenigol y sesiynau fydd y gantores talentog Casi Wyn: “Rydym yn chwilio am bobl ifanc sy’n mwynhau nid yn unig perfformio a ‘sgwennu, ond hefyd yr agweddau cerddoriaeth, technegol, cynllunio a hyrwyddo sy’n rhan bwysig o unrhyw gynhyrchiad llwyddiannus, mae ‘na rywbeth at ddant pawb!”Am ragor o fanylion: www.chwarel2014.com