Pay Dd6
02.02.17

O'r ystafell ymarfer gyda'r actor Melangell Dolma

Mae cynhyrchiad diweddaraf Frân Wen yn mynd i'r afael ag agweddau pobl ifanc o sefyllfa ffoaduriaid yn y byd heddiw.

MelangellGyda'r argyfwng yn amlwg yn Ewrop, mae Sigl Di Gwt yn trafod hawliau dynol ffoaduriaid a'r perthnasedd i blant Gogledd Cymru."Mae’r themâu ffoaduriaid yn un cymhleth ac emosiynol iawn," meddai Melangell, sy'n wreiddiol o Lanfrothen ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd."Mae’n ddychrynllyd beth sy’n digwydd ar hyn o bryd efo Trump yn gwahardd ffoaduriaid o wledydd penodol felly mae'n arbennig o berthnasol."Mi ryda ni wedi bod yn gwneud lot o waith ymchwil ar y cyd yn yr ystafell ymarfer hyd yma, yn gwylio fideos o brofiadau personol ffoaduriaid a darllen eu hanesion. A dwi’n trio dilyn unrhyw ddatblygiadau yn y newyddion."Mae Sigl Di Gwt, sy'n teithio ysgolion Gogledd Cymru yng Ngwanwyn 2017, yn sioe dyfeisiedig sy'n golygu bod hi'n cael ei chreu gan yr artistiaid eu hunain."Mae’r broses dyfeisio yn gyffrous iawn! Dydw i erioed wedi dyfeisio sioe gyfan o’r blaen, dim ond pytiau bychain, felly mae’n brofiad newydd i mi. Dwi’n mwynhau’n arw hyd yma. Mae’n cynnig gymaint o bosibiliadau."Yn ymuno â Melangell ar y tîm creadigol mae'r perfformwyr Iwan Charles a Mirain Fflur a'r cerddor Gethin Griffiths - gydag Iola Ynyr yn cyfarwyddo a Lewis Williams yn rheoli’r elfen dechnegol."Actores ydw i yn bennaf, hefo dipyn o brofiad mewn byrfyfyrio a gwaith corfforol. Mae’n wych cael cymaint o wahanol arbenigedd o fewn yr ystafell ymarfer. Mae pawb yn dod a safbwynt gwahanol i’r gwaith sydd yn cyfoethogi be’ ‘da ni’n ei greu."Mae'r criw yn hyderus iawn bydd Sigl Di Gwt yn sioe werth ei weld."Wel mae hi’n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd, a lot o waith yn dal o’n blaenau, ond dwi’n edrych ymlaen yn arw i weld ymateb y bobl ifanc. Dwi’n hyderus y bydda ni wedi creu sioe eithaf arbennig erbyn dechrau’r daith."