Galwad Castio Agored
Rydym yn chwilio am berfformwyr benywaidd a pherfformwyr sy’n uniaethu fel merched sy’n siarad Cymraeg i ymuno â ni ar gyfer cynhyrchiad newydd cyffrous wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.
Wedi’i leoli a’i pherfformio mewn capel yng ngogledd Cymru, mae’r prosiect hwn yn dod â straeon merched o’r gorffennol wyneb yn wyneb â merch ifanc yn y presennol.
Dan gyfarwyddyd Amy Leach, mae’r cynhyrchiad yn plethu hiwmor, dirgelwch ac eiliadau o gysylltiad dynol i greu stori am farnu, perthyn a beth mae’n ei olygu i ofalu am ein gilydd.
Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn dod â gwaith yr awduron Hanna Jarman, Meleri Wyn Davies, Anya Sherlock a Hannah McPake ynghyd, gan dynnu ysbrydoliaeth o ymchwil hanesyddol a wnaed gan Elin Tomos, un o gyd-grëwyr y prosiect.
Dyddiadau’r cytundeb: 7 Rhagfyr 2026 i 31 Ionawr 2027
Castio: Rydym yn chwilio am berfformwyr benywaidd a pherfformwyr sy’n uniaethu fel merched. Mae’r pedair rôl yn gofyn am Gymraeg rhugl ac acen o Ogledd Cymru, neu’r gallu i berfformio’r acen yn naturiol ac yn argyhoeddiadol.
Cymeriadau
Elizabeth: Oedran perfformio yn ei 30au
Gwniadwraig â llygad craff am fanylion a dawn gyda geiriau, sydd â chysylltiad dwfn â’r afon. Mae hi’n gynnes ac yn ffraeth, ond yn wynebu heriau iselder ac episodau mania yn dilyn genedigaeth, rhywbeth y mae’r bobl o’i chwmpas yn ei chael hi’n anodd ei ddeall. Mae stori Elizabeth wedi’i seilio ar hanes gwir o 1913.
Dorothy: Oedran perfformio yn ei 20au
Yn graff, yn danbaid ac yn llawn asbri, mae Dorothy wedi colli ei dau riant. Bellach, mae hi wedi’i chyhuddo o ddewiniaeth ac yn herio’r ffordd y mae eraill wedi adrodd ei stori. Mae stori Dorothy wedi’i seilio ar hanes gwir o 1855.
Sami: Oedran perfformio canol i ddiwedd ei harddegau
Merch ifanc sy’n ceisio canfod ei ffordd drwy ddicter, ansicrwydd a newid. Yn ddi-flewyn-ar-dafod, yn ddoniol ac yn ffyrnig o annibynnol, mae Sami wedi bod yn gofalu am ei mam a’i brodyr a’i chwiorydd ers i’w thad adael, gan ysgwyddo cyfrifoldebau mawr. Mae Sami yn gymeriad cyfoes newydd sydd wedi’i greu ar gyfer y cynhyrchiad.
Gofalwraig y Capel: Oedran perfformio 30 i 60 oed
Gofalwraig y capel sy’n gweithredu fel tywysydd drwy’r stori. Yn graff ei golwg, yn groesawgar ac yn llawn hiwmor a dirgelwch. Rhaid i’r perfformiwr allu canu.
Dyddiadau Clyweliadau
Bangor: Dydd Llun 19 Hydref 2026
Caerdydd: Dydd Mercher 21 Hydref 2026
Clyweliadau Zoom: Dydd Gwener 16 Hydref 2026
Byddwn hefyd yn ystyried clyweliadau wedi’u recordio ymlaen llaw (self-tapes).
Cofrestru / Rhagor o Fanylion
Ebostiwch post@franwen.com i holi am argaeledd clyweliad neu ffoniwch 01248 715 048 am sgwrs pellach.
Hygyrchedd
Rydym am sicrhau bod y broses glyweld mor hygyrch â phosibl.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion hygyrchedd wrth gysylltu â ni, a gallwn drafod unrhyw addasiadau i fformat, amseriad neu ddeunyddiau’r clyweliad er mwyn eich cefnogi.