Nyth yn agor ei ddrysau
Mae Nyth, ein hwb celfyddydol, diwylliannol a chymunedol newydd i bobl ifanc ym Mangor wedi ei agor yn swyddogol.
Rydym wedi trawsnewid yr hen Eglwys Santes Fair, sy’n adeilad rhestredig gradd II, ar Ffordd Garth fel rhan o brosiect gwerth £4.5m.
Mae'r datblygiad yn trawnewid yr adeilad yn hwb cwbl hygyrch i bawb fydd yn cynnwys gofod i greu, ymarfer a pherfformio ar raddfa fechan, stiwdio tanddaearol a nifer o ofodau creadigol llai ar gyfer cynnal preswyliadau i artistiaid.
Rydyn ni mor gyffrous i agor drysau ein cartref newydd, Nyth. Bydd y gofod yma yn hwb i bobl ifanc, artistiaid a’r gymuned ehangach i ddod at ei gilydd, i gysylltu, herio, creu a rhannu trwy'r celfyddydau.Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen
Meddai Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae NYTH yn ganlyniad o bartneriaeth ariannu bwerus sy’n gweld un o’n cwmnïau theatr pwysicaf yn cymryd lle amlwg wrth galon eu cymuned.
Mae’n anhygoel gweld bywyd newydd cyffrous i’r hen adeilad hwn, ac mae’n wych gwybod bod Fran Wen, un o gonglfeini’r theatr Gymraeg ers bron i bedwar degawd, yn parhau i ddatblygu ac ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn theatr. Heb os, bydd Nyth yn gaffaeliad i economi greadigol y gogledd-orllewin wrth iddo ddarparu cyfleoedd newydd i’r rhai sy’n dymuno gweithio ym myd theatr.”
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Rydym am i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymreig, lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, siopau, mannau cymunedol a diwylliannol.
Rwy'n falch o weld cwblhad y prosiect hwn sydd wedi trawsnewid eglwys wag yng nghanol Bangor yn ganolfan gelfyddydol a chymunedol wych, sy'n ymroddedig i bobl ifanc ac artistiaid, ac a fydd yn hyrwyddo'r diwydiant celfyddydau ar draws Gogledd Orllewin Cymru.
Trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, roeddem yn gallu cefnogi'r prosiect gyda £1.2 miliwn o gyllid.
Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o ymgysylltu â'r gymuned sydd angen ei weld mewn mwy o’n canol trefi."
Diolch i'r canlynol am eu cefnogaeth i helpu ni wireddu Nyth:
Cronfa Cyfalaf Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru trwy Cyngor Gwynedd.
Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
Cronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru trwy Cronfa Y Loteri Gymunedol, Y Gronfa Treftadaeth. Loteri Genedlaethol, Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (WCVA)
Cist Gwynedd
Ymddiriedolaeth Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Teulu Douglas-Pennant, The Wolfson Foundation, Laspen Trust, The Oakdale Trust, Moondance Foundation.
Ymgyrch cyllido torfol a chyfraniadau unigol.