Pay Dd6
27.02.14

NOSON CYN Y PERFFORMIAD MAWR

[caption id="attachment_1172" align="aligncenter" width="640"]Ffion (ar y dde) gyda rhai o aelodau Brain. Ffion (ar y dde) gyda rhai o aelodau Brain.[/caption]

Mae hi’n 6pm ar noswyl perfformiad cynta’ Bocsys - cynhyrchiad diweddaraf Brain – yr unig gyfle i ni gael heddiw i ddal fynnu gyda’r cyfarwyddwr Ffion Haf.

Y disgwyl ydi fod Ffion, gyda llai na 12 awr i fynd tan y perfformiad cynta’, am fod ychydig bach yn nerfus, ond nid dyna sydd yn gwynebu ni heno:

“Does gen i ddim amser am nerfau. Fel rheol dwi’n mynd yn nerfus cyn cychwyn ymarferion ond unwaith mae'r rheini yn cychwyn dwi’n jest mynd ati!” meddai’r cyfarwyddwr o Borthaethwy sydd bellach yn byw yn Gaernarfon.

Yn ogystal â cyfarwyddo, mae Ffion yn reolwr prosiect ar Brain, sef cynllun gan Cwmni’r Frân Wen ar gyfer pobl ifanc i ddyfeisio gwaith theatr:

“Mae’n grêt cael rhoi’r cyfle i bobl ifanc i gymryd rhan mewn cynhyrchiad o’r fath. Fel cwmni theatr broffesiynol ‘da ni wastad yn trin aelodau Brain yn broffesiynol, yn union fel actorion neu technegwyr proffesiynol.”

Mae cyfranogwyr Bocsys yn cynnwys y bit-bocsiwr Ed Holden, yr DJ Ifan Dafydd, yr artist Luned Rhys Parri a’r actor Martin Thomas.

“Mae’r bobl ifanc yn cael y profiad o gydweithio gydag actorion, cyfarwyddwyr, cynllunwyr a thechnegwyr proffesiynol yn ogystal â marchnata gwaith ei hunain.

“Ei syniadau nhw sydd yn arwain ni fel artistiaid. Yn amlwg ‘da ni wedi paratoi briff ar ei gyfer ond nhw sydd wedyn yn arwain y ffordd – nhw sydd yn dweud beth yw beth a ‘da ni yno i gyflawni eu gweledigaeth.”

Bu Ffion yn gweithio ar y prosiect ers tair blynedd ac mae gan hi falchder mawr yn y gwaith mae’r aelodau yn cynhyrchu:

“Wrth gychwyn gwaith ar gynhyrchiad newydd (mae cynhyrchiad newydd bob blwyddyn) dyw’r bobl ifanc ddim yn sylwi faint o ryddid sydd ganddynt. Un peth dwi’n mwynhau annog yw dychymig. Mae bob dim creadigol yn arbrawf yn ei hun ac os dio ddim yn gweithio, dydi o ddim yn gweithio - ond heb drio ‘da chi ddim yn mynd i ffeindio allan.

“Dwi’n cael dilyn taith y bobl ifanc ac yn gweld sut mae eu hyder wedi tyfu ac mae eu dychymig wedi ei ryddhau yn llwyr – maent yn barod i fentro a gwneud petha’ cyffrous.”

1797579_10152625228137586_1865977306_n

BOCSYS 3pm, 5pm & 7pm 28 Chwefror 2014.