Munud gyda Rhodri Sion
GWYNMewn ffordd swynol a hudolus mae GWYN yn adlewyrchu rhai o brofiadau pwysig tyfu fyny – darganfod pethau newydd, dod i delerau â'r anghyfarwydd a dod i dderbyn a charu'r pethau rheiny. Mae'n gweithio ar lefel plentyn ond yn cyflwyno perspectif diddorol i oedolion.Ti'n edrych 'mlaen i berfformio GWYN gyda Bryn Fôn?Mae'n brofiad newydd i mi wneud sioe i blant mor ifanc a hyn felly mae hynny'n mynd i fod yn sialens i mi, ond fel tad i ferch sy'n dair oed gobeithio fod gen i fymryn o syniad sut i gyfathrebu a phlant o'r oed yma. Mai bob amser yn bleser gweithio efo Bryn ond dyma'r tro cyntaf i mi weithio gydag ef ar lwyfan felly'n edrych ymlaen. Sut liw yw gwyn i ti?Mae gwyn i fi yn liw glan, pur a theimlad meddygol iddo – cynfas gwag, tudalen wag o bapur neu eira heb olion traed arno. Mae'n rhoi cyfle am ddechrau newydd. Mae glas yn liw sy'n fy ngwneud i deimlo'n ddedwydd, y mor,yr awyr, ein ystafell wely.Disgrifia dy hun mewn lliwiau ...Dwi'n enfys, dwi'n goch pan yn flin, yn felyn pan dwi'n hapus, weithiau'n las a weithiau'n wyrdd. Dwi ddim isho bod yn un lliw byth! Mi fydda hynny'n ddiflas.Sut fydde ti'n teimlo gorfod byw mewn byd unlliw?Byddai'n brofiad anghyfforddus byw mewn byd unlliw, fydden i ddim yn ei fwynhau o gwbl. Byddai byw mewn byd unlliw yn ddiflas, mae plesr yn dod o fyw mewn byd amryliw.Diddordebau ... Dwi wrth fy modd yn tyfu ffrwythau a llysiau yn yr ardd efo Miri fach, wedyn dwi'n hoffi coginio a chael ffrindiau draw am bryd mawr a 'chydig o win.