Munud gyda Bryn Fôn
Dy feddyliau pan welais di WHITE am y tro cyntaf ... GWYN - O weld pytiau a'r YouTube , meddyliais ei bod yn edrych yn hudolus ac y byddai yn her i berfformio cystal a'r actorion gwreiddiolSut fyddet ti'n disgrifio cynhyrchiad GWYN mewn ychydig eiriau? GWYN - Syml , annwyl a gwefreiddiol .Ti'n edrych 'mlaen i berfformio GWYN gyda Rhodri Sion? Ydw , 'dw i'n ffrindia da gyda Rhodri ers blynyddoedd , ac wedi edmygu ei allu ers tro . Roedd yn wych yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol - Y Gofalwr , ac hefyd yn Y Storm . Mi gawn ni hwyl dwi'n siwr .Rwyt ti'n hoffi'r lliw coch, lliw ein tim cenedlaethol. Beth am y lliw gwyn? Hefo'r tywydd yr yda ni wedi gael eleni - beth arall ond eira . A mi fum yn sgio yn mis Mawrth! Mae gen i ddiddordeb mewn Bwdeaeth , felly mae oren yn tueddu i wneud i mi deimlo yn ysbrydol .Tasa rhaid i ti ddisgrifio dy hun fel lliw pa liw fydda' hwnnw a pam? Glas - 'dw i reit oriog - gallu bod yn gynnes / gallu bod yn oer !Sut ti'n meddwl y bydde ti'n dygymod â byw mewn byd di-liw fel mae'r ffrindiau yn GWYN yn ei wneud? Tasa rhaid i ti fyw mewn byd unlliw - byd pa liw fydda' hwnnw? Mi fydda' byw mewn byd heb liw yn hunllef i mi , rwyf yn hoff o fyd natur a'r myrdd o liwiau . Ond o raid , GWYRDD ma siwr , dwn i ddim pam.Beth sy'n arbennig i ti am fyd Theatr? Toes dim all guro y theatr , i actor all dim gystadlu â bod ar lwyfan , mae'r "adrenalin rush " yn heintus . Gweld a clywed ymateb y gynulleidfa yn syth , er rhaid i mi ddeud , beryg ein bod ar fin perfformio i'r gynulleidfa anodda' un! Bydd rhai mae'n debyg yn cael eu profiad cyntaf o theatr, mae'r cyfrifoldeb o sicrhau fod y profiad hwnnw yn un pleserus yn llethu dyn . Fe all hyn ddylanwadu ar sut y byddant yn meddwl am theatr am byth ...brawychus!Pan ti ddim yn canu/actio a diddanu- be ti'n hoffi wneud yn dy amser rhydd? Rwyf yn dyddynwr , ac ynghanol wyna ar y funud (llun gan Bryn Fôn).