Pay Dd6
21.01.16

Mentoriaeth sgriptio arbennig

Screen Shot 2016-01-21 at 16.10.04

Wyt ti o dan 25 oed ac eisiau elwa ar fentoriaeth sgriptio arbennig?

Dyma gyfle gwerthfawr i 6 sgwennwr ifanc disglair weithio gyda Frân Wen i ddatblygu gwaith newydd dan gyfarwyddyd dramodwyr profiadol.Bydd actorion proffesiynol yn cynnal darlleniadau o'r gwaith gorffenedig fel rhan o benwythnos INC yn Galeri ym Mehefin, 2016.Un cyngor mae'r dramodydd Aled Jones Williams - sy'n rhan o dîm mentora Sgript i Lwyfan 2016 - yn ei roi i bobl ifanc yw i "gredu yn eu gallu a pheidio bod ofn dweud dim byd.""Mae hi' n bleser bob amser gweithio ag awduron ieuanc: eu brwdfrydedd au ffresni, y dychymyg rywsut yn fwy beiddgar a fyth yn chwarae'n saff. Yr oed y criw yma yn un o'r goreuon i mi weithio hefo nhw rioed- a dim jysd deud hynny ydwi!," meddai Aled.Mae’n destun balchder i Frân Wen fod Llŷr Titus oedd yn rhan o gynllun Sgript i Lwyfan 2014 wedi derbyn enwebiad am y Dramodwr Gorau yn y Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni am ei ddrama ‘Drych’ a ddeilliodd o’i gyfnod yn Sgript i Lwyfan, ac yntau yn ddim ond 22 oed.[caption id="attachment_2227" align="alignnone" width="1024"]Drych gan Frân Wen Y dramodydd Llyr Titus wedi ei enwebu yng Ngwobrau Theatr Cymru am Drych[/caption]Meddai Llyr, sydd yn fyfyriwr MA ym Mhrifysgol Bangor: "Roedd cael gweithio gyda Aled Jones-Williams yn eithriadol, roedd o’n brofiad buddiol nid yn unig o ran gallu trafod syniadau hefo rhywun profiadol ond hefyd i gael amser ac anogaeth i fynd ati i ’sgwennu."I ymgeisio, gyrrwch ddarn o waith creadigol i post@franwen.com erbyn 12 Chwefror 2016. Byddwn yn cyhoeddi'r unigolion llwyddiannus ym mis Chwefror.Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs ffoniwch 01248 715048.Ffi y cynllun £50.00