
Llongyfarchiadau mawr i Lois Williams am ennill y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.Roedd Lois, sydd yn 18 oed ac yn fyfyrwraig Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, yn aelod o
Sgript i Lwyfan 2015, sef cynllun datblygu ‘sgwennwyr ifanc y cwmni – enghraifft berffaith o’r ffordd mae Frân Wen yn annog a meithrin artistiaid creadigol ifanc a thalentog.Roedd gwaith buddugol Lois yn cymharu afal Efa a chwmni Apple.