Dyma'n gwefan BETA newydd sydd dal yn cael ei brofi. Rhowch wybod be' chi'n feddwl!
Llwyfan byd ar gyfer Casgliad Cymru
Mae Frân Wen wedi cael ei ddewis fel rhan o dîm i gymryd rhan mewn gŵyl fydd yn dod â gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr, artistiaid a mathemategwyr ynghyd i arddangos creadigrwydd ac arloesedd ar lwyfan y byd.

"Nod yr ŵyl yw dod â phobl ynghyd ac arddangos creadigrwydd. Rydyn ni'n gyffrous gyda'r hyn y bydd yn ei olygu i'r sector yng Ngogledd Orllewin Cymru ac yn edrych ymlaen at sicrhau bod yr iaith Gymraeg a lleisiau pobl ifanc Gogledd Cymru yn cael eu cynrychioli a'u dathlu fel rhan o'r digwyddiad proffil uchel hwn," meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.Mae’r cydweithrediad cenedlaethol wedi ei gomisiynu i fynd ati i gynhyrchu ei brosiect cynhwysol yn llawn.
"Mae hwn yn gyfle euraidd i ni rannu gyda'r byd yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn ifanc yng Ngogledd Cymru heddiw. Credwn y gall pawb ddysgu gan bobl ifanc, artistiaid a chymunedau sydd am greu dyfodol newydd," ychwanegodd Gethin."Bydd ein prosiect yn gynhwysol, yn gosod y Gymraeg wrth ei galon ac yn fyd-eang yn ei weledigaeth. Mae Frân Wen yn gweithio ac yn cael eu hysbrydoli gan gymunedau amrywiol sydd yn cael eu tangynrychioli a gall y prosiect hwn ddyrchafu a rhyddhau'r lleisiau hyn i helpu i greu byd mwy cyfartal a lliwgar. "Mae tîm Casgliad Cymru yn cynrychioli ystod o sefydliadau o’r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth a Jukebox Collective sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd i Frân Wen yng Ngogledd Orllewin Cymru, technolegwyr creadigol ac arloeswyr o Sugar Creative a Clwstwr, newyddiadurwr a threfnydd cymunedol, awdur, gwneuthurwyr theatr ac artistiaid i gynrychiolwyr sefydliadau cenedlaethol: Celfyddydau Anabledd Cymru, National Theatre Wales a Ffilm Cymru.Dywedodd Pryderi Ap Rhisiart, cadeirydd annibynnol bwrdd Frân Wen:
"Mae'n fraint cael gweithio gyda grŵp o bobl hynod o amrywiol ddisgyblaethau, profiadau ac ardaloedd yng Nghymru. Gyda'n gilydd rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd prosiect creadigol cenedlaethol ar y raddfa yma yn cynrychioli pobl Cymru ar lwyfan byd-eang. ""Mae'r Gymraeg yn flaenoriaeth sylfaenol i ni a byddwn yn defnyddio'r cyfle hwn i ddathlu a hyrwyddo ei hamrywiaeth a sicrhau bod hynny'n gynrychiolaeth wirioneddol o’r Gymru fodern."Yn dilyn cam Ymchwil a Datblygu cychwynnol, bydd prosiect Casgliad Cymru yn rhoi’r hwb sydd ei angen i weithwyr llawrydd creadigol, y sector creadigol ehangach ac i leoliadau penodol yng Nghymru sydd wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig.Mae manylion llawn holl gomisiynau’r ŵyl yn cael eu cadw dan glo er mwyn caniatáu i’r Timau Creadigol droi eu syniadau’n realiti, ond bydd prosiectau’n mynd â ni o’r tir, i’r môr, i’r awyr a hyd yn oed y gofod, gan ddefnyddio technoleg arloesol a phŵer dychymyg. Cyhoeddir rhaglen yr ŵyl yn ddiweddarach eleni.*Teitl ar-waith