Llwyddiant Cais Amgen
Rhglen arloesi creadigol uchelgeisiol yn derbyn hwb sylweddol
Mae rhaglen arloesi creadigol newydd, dan arweiniad Prifysgol De Cymru gyda Frân Wen yn bartner craidd, wedi llwyddo i sicrhau cyllid i ysgogi arloesi creadigol ledled Cymru.
Mae Amgen yn rhaglen arloesi pum mlynedd sy’n dod â phrifysgolion a sefydliadau creadigol ynghyd i sbarduno twf a datblygiad ar draws diwydiannau creadigol Cymru.
Gyda Nyth yn gweithredu fel hwb creadigol i Amgen yng ngogledd-orllewin Cymru, rydym am greu’r amodau i artistiaid arbrofi, mentro, arloesi a chydweithio ar draws disgyblaethau, gan agor drysau i bartneriaethau a chyfleoedd newydd.
Bydd Amgen: Perfformio Byw a Thechnoleg Creadigol yn rhedeg o 2027 i 2032, ac yn cael ei ariannu drwy Raglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Ategir grant o £6.75 miliwn oddi wrth yr AHRC gan gyd-fuddsoddiad o £7.35 miliwn gan bartneriaid, sy'n rhoi cyfanswm gwerth £14.1 miliwn i'r rhaglen.
Bydd y rhaglen yn cael ei gyd-gyfarwyddo gan yr Athro Lisa Lewis, Deon Cysylltiol Ymchwil ac Arloesi, a Richard Hurford, Cyd-Arweinydd y Grŵp Ymchwil ac Arloesi Diwydiannau Creadigol, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC.
Mae'r cyllid hwn yn cynrychioli buddsoddiad hanfodol i'r sector perfformio byw yng Nghymru, gan alluogi effaith economaidd, gymdeithasol a diwylliannol y tu hwnt i ganolfannau trefol.Yr Athro Lisa Lewis
Ein huchelgais drwy’r prosiect yw trawsnewid y dirwedd greadigol yn y gogledd-orllewin, gan ehangu’n sylweddol y cyfleoedd a’r posibiliadau i artistiaid sy’n dewis byw, creu a gweithio yma, a gosod sylfeini ar gyfer dyfodol creadigol ffyniannus a chynaliadwy.
Ymhlith y partneriaid mae Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, PDR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru, CULTVR, Arad Goch, a Theatr Cymru.