Pay Dd6
29.10.13

“I can live for two months on a good compliment.” Mark Twain

Dim Diolch gan Cwmni'r Frân WenMAE pawb yn licio ychydig bach o ganmoliaeth weithiau, a ‘da ni ddim gwahanol yma yn Cwmni’r Frân Wen.Wythnos diwethaf cychwynnodd ein cynhyrchiad diweddaraf ‘Dim Diolch’ ar ei daith. Er bod gennym ffydd yn ein gwaith, mae perfformiadau cynta' o unrhyw sioe wastad yn adeg nerfus oherwydd ‘da chi byth yn hollol saff beth fydd ymateb y gynulleidfa.Felly braf oedd clywed adborth mor bositif i'r perfformiadau yng Nghaernarfon a Bangor, dyma flas o'r ymateb:@sioned07 Wedi mwynhau #DimDiolch heno'ma, yn enwedig perfformiad Carwyn Jones. Cryf a theimladwy. Mynd i 'wikipedio' George rwan!@paul_griffiths:Braint gwylio #dimdiolch heno; cyfoes a chyfoethog; os na welsoch gynhyrchiad Cymraeg leni, mynnwch a theithiwch i weld hwnMari Emlyn: Llongyfarchiadau I bawb fu'n rhan o Dim Diolch. Actio gwych. Gwerth ei weld.*Gyda llaw, ‘da ni yn gwerthfawrogi unrhyw fath o adborth. Addo.*