Pay Dd6
05.08.20

I bobl ifanc. Gyda phobl ifanc. Ein rhaglen newydd!

Dyma gyflwyno ein rhaglen fwyaf cydweithredol erioed!Rydym yn edrych ymlaen at gofleidio ffyrdd newydd o weithio, cysylltu a chreu amrywiaeth o brosiectau a chynyrchiadau uchelgeisiol a chyfoes.Gan gyd-weithio ochr yn ochr ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr y Sherman, Llenyddiaeth Cymru a Pontio a rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru!Boed yn gynhyrchiad neu gwaith mewn datblygiad fel rhan o’n rhaglen newydd ni Frân Wen Sgratsh, dros y 6 mis nesaf byddwn yn tynnu hen glasuron yn gria’, yn rhoi stamp Frân Wen ar sioe gerdd ac arbrofi gyda theatr gig am y tro cyntaf.Byddwn hefyd yn cydweithio gyda Chwmni Ifanc Frân Wen mewn ffyrdd hollol newydd, gan eu gosod wrth galon ein rhaglen er mwyn sicrhau’r cyfleon mwyaf cynhwysol a heriol i’n pobl ifanc.Heb anghofio wrth gwrs am ddatblygiadau Nyth - ein cartref newydd sbon ym Mangor.https://youtu.be/ULG06fLwPm8Darllenwch ein Zine am fanylion llawn y rhaglen newydd.