Holi’r 'sgrifennwr: Iola Ynyr / Dim Diolch
ENW: IOLA YNYR CYNHYRCHIAD: DIM DIOLCH [TACH 2013] DYLETSWYDD: YSGRIFENNWR
Sut ddois di ar draws stori George Price? Wrthi’n ymchwilio at gynhyrchiad ‘Dividefaid’ o’n i ddwy flynedd yn ôl pan ddois i ar draws rhaglen ddogfen gan y BBC ‘All Watched Over by Machines of Loving Grace’. Roedd yr ail bennod yn edrych ar George R. Price yn dadansoddi hafaliadau cyfrifiadurol ac wedyn yn gweithio arnyn nhw er mwyn egluro llofruddiaeth, daioni, hunanladdiad a charedigrwydd a’i effaith ar y genynnau.
Ond yr hyn oedd yn rhyfeddol oedd effaith darganfod yr hafaliadau yma ar fywyd personol George.
Beth oedd apel y stori? Bod George mewn rhyw fath o frwydr hefo fo’i hun. Roedd ei feddwl craff a gwyddonol yn ymladd gyda angen ei galon i helpu eraill. Roedd na gymaint o ddeuoliaeth yn ei fywyd a chymlethdod. Mi adawodd ei wraig a’I blant yn America i roi y cwbl i bobl di-gartref yn Llundain a hynny ar draul ei waith academaidd a’i iechyd corfforol a meddyliol.Beth oedd y broses sgriptio? Mi fues i’n gweithio’n glos gyda Ffion fel cyfarwyddwraig i ddatblygu’r sgript. Yr her mwyaf oedd trio cwmpasu holl fywyd cyfoethog George i gynhyrchiad nad oedd yn ‘adrodd’ ei stori. Roeddwn i’n awyddus i ddangos George y gwyddonydd ond hefyd yr unigolyn oedd yn crefu am gael ei dderbyn a’i garu.Roedd rhaid meddwl am ffyrdd gweledol o fynegi cymlethdod bywyd George. Mi gymrodd hi gryn amser i mi wir gydymdeimlo hefo fo ond wrth ymchwilio ac yn arbennig darllen ‘The Price of Altruism’ Oren Harman, mi sylweddolais ei fod yn berson oedd yn garismatidd dros ben ac yn derbyn pobl am beth oeddyn nhw ac heb eu beirniadu. Ar yr un gwynt, mi allai fod yn ragfarnllyd ac eithafol ond roedd meddwl amdano yn cael ei gladdu mewn bedd di-enw yn Euston gyda dau wyddonydd mwya’r byd a chriw o bobl di-gartref yn cwmpasu hanes brith a difyr ei fywyd.Pa effaith wyt ti’n ei obeithio ei greu? Mi fyswn i’n hoffi meddwl bod y cynhyrchiad yn gneud i ni asesu beth sy’n allweddol yn ein bywydau a beth mewn gwirionedd sy’n gwneud bywyd gwerth ei fyw. Dwi’n gobeithio y bydd o’n amlygu gallu pobl i gysylltu hefo’i gilydd a dangos gwir haelioni.Sut mae’r stori wedi dy newid di? Mae’r stori di amlygu breuder bywyd i mi ond hefyd yr eiliadau o harddwch a chariad sy’n lleddfu’r cyfnodau tywyll.