Holi’r Prentis: Morgan Huw Evans
Sgwrs gyda Morgan, sef prentis diflino Cwmni'r Frân Wen ers 2013.
ENW: Morgan Huw Evans OED: 19 BYW: Rhiwlas DYLETSWYDD: Prentis Technegydd
Beth yw dy rôl gyda Cwmni’r Frân Wen?Dwi'n cynorthwyo gyda bob math o bethau tu ôl i'r llwyfan - y set, props, goleuadau. Mae'n waith hynod o ddifyr oherwydd dwi’n cael y cyfle i weld sut mae theatr yn gweithio.Beth wyt ti'n hoffi am y swydd?Dwi wedi dysgu pob math o sgiliau ac yn wir mwynhau’r amrywiaeth mae'r gwaith yn gynnig.Rho enghraifft i ni o dy waith.Wythnos diwethaf ro' ni'n helpu'r artist Luned Rhys Parri gyda props ar gyfer ein cynhyrchiad diweddaraf, Cwpwrdd Dillad.Wedyn wythnos yma dwi'n mynd efo'r criw i dreialu'r perfformiad mewn ysgolion lleol. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae'n helpu gyda threfnu logistics - pethau fel sut mae’r set am gael ei gludo o gwmpas, faint o amser mae'r set yn cymryd i roi fyny. Fel y dywedais yn gynharach - amrywiaeth mawr.A fyddech chi'n argymell prentisiaeth?