Pay Dd6
20.11.13

Holi’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Erin Maddocks / Dim Diolch

Image

ENW: ERIN MADDOCKS CYNHYRCHIAD: DIM DIOLCH [TACH 2013] DYLETSWYDD: CYNLLUNYDD SET A GWISGOEDD

Beth oedd dy ysbrydoliaeth ar gyfer y cynllun?Daeth fy ysbrydoliaeth o edrych ar fywyd George Price: ei waith academaidd yn ogystal a’i waith gyda phobl digartref, a cheisio darganfod ryw falans rhwng y ddwy elfen yna. Y syniad oedd creu set a fyddai’n adlewyrchu hyn ac yn dod â’r gynulleidfa i mewn i ben ac atgofion George.Sut wnes di gyflwyno dy syniadau i’r tim cynhyrchu?Dwi’n ffeindio ei bod hi’n help cyflwyno syniadau efo llwyth o ddelweddau a model 3D o’r set i esbonio be sy’n mynd ymlaen yn fy meddwl! Mae’r model yn rhoi cyfla i ni arbrofi gyda’r gofod cyn adeiladu y set ei hun wrth symud darnau o gwmpas ac edrych arno o wahanol onglau.Beth oedd y sialens mwyaf wrth gynllunio?Cynllunio set addas ar gyfer taith tra ar yr un pryd yn creu gofod interactif a diddorol sydd yn cwmpasu’r gynulleidfaBeth yw’r dylanwad mwyaf arnat fel cynllunydd?Dwi wedi bod yn lwcus iawn o gael athrawon a thiwtoriaid arbennig sydd wedi fy nylanwadu i feddwl mewn ffyrdd creadigol. Dwi hefyd wedi cael fy nylanwadu gan gwmniau theatr fel Shunt sydd yn creu gwaith gyda steil newydd ac unigryw.Sut wnes di hyfforddi i fod yn gynllunydd?Dechreuais wrth wneud cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai ac yna ymlaen i astudio dylunio theatr ym Mhrifysgol Leeds. Dwi wedi gweithio mewn adran wisgoedd mawr i gwmni opera ac fel cynorthwydd i ddylunwyr eraill ac yn dysgu rhywbeth newydd o bob cynhyrchiad!Pa gynhyrchiad fyddet ti wrth dy fodd yn ei gynllunio?Yr opra Madame Butterfly, fersiwn llwyfan/teledu o lyfrau Dewi Prysor, unrhywbeth gan y cwmni PunchdrunkBeth ydi dy gynlluniau di ar gyfer y dyfodol?Dal i weithio fel dylunydd a gobeithio datblygu mwy o waith newydd gyda Cwmni’r Fran Wen a chwmniau eraill!