Pay Dd6
16.11.13

Holi'r Cyfarwyddwr: Ffion Haf / Dim Diolch

Ffion Haf ENW: FFION HAF CYNHYRCHIAD: DIM DIOLCH [TACH 2013] DYLETSWYDD: CYFARWYDDWR

Beth oedd y sialens mwyaf wrth gyfarwyddo ‘Dim Diolch’? Oherwydd y roedd y ddrama yn seiliedig ar hanes go iawn academydd/gwyddonydd Dr George Price roedd hi’n bwysig cadw’n driw at ffeithiau/prif ddigwyddiadau ei fywyd. Gan mai theatr oedd y ffurf i fynd ati i gyfathrebu ei hanes yn gelfyddydol roedd hi’n hanfodol adnabod beth oedd y stori y roeddwn i eisiau ei ddweud wrth y gynulleidfa? Roedd bywyd George Price yn gyfoethog dros ben a’r her fwyaf oedd distyllu a chaniatáu i’r golygfeydd byrion lifo o un i’r llall.Sut mae llwyfannu drama am berson go iawn yn wahanol i ddrama am gymeriadau dychmygol? Mae yna lawer iawn o ffeithiau cymeriad, hanes, cyfnod i’w astudio. Wrth i minnau, yr awdur, actorion a’r cynllunwyr fynd ati i ddatblygu’r ddrama mae’r gwaith ymchwil yn gallu bod yn sylfaen i’r cynhyrchiad.Roedd angen i ni ddod i adnabod sut oedd pobl yn ymddwyn mewn cymdeithas o’r 40au i’r 70au ym Mhrifysgolion America o’i gymharu â rhai yn Llundain. A hefyd roedd George Price gyda Asperger’s, oedd ddim wedi cael ei enwi yn ystod ei fodolaeth, felly sut oedd cymdeithas yn trin unigolion fel George Price ar y pryd? Mae’r un broses yn bodoli wrth fynd ati i greu darn o theatr dychmygol ond y pleser wrth weithio ar hanes go iawn yw gwybod dy fod yn mynd i fynd ati i ddarganfod cymeriadau a byd sydd wedi bodoli yn barod a bydd cynulleidfa yn cael profi stori go iawn.Sut arddull sydd i’r cynhyrchiad? Mae’n anodd i mi benderfynu beth yw arddull y cynhyrchiad oherwydd rwy’n teimlo mai’r gynulleidfa sydd fel arfer yn penderfynu ar hynny. Ond o ran strwythur y ddrama, mae yna llawer iawn o olygfeydd byrion, oedd yn atgoffa fi o’r ddrama ‘Woyzeck’ gan George Buchner, teimlad Almaeneg iawn i’r gwaith wrth ei greu. Mae’r gwaith yn weledol iawn a ddyfeisgar o ran ei arddull ac mae yna symboliaeth yn perthyn i’r set gan mai yn ‘nyth’ George mae’r stori wedi cael ei lleoli. Yn ei ben lle mae’n trio helpu eraill gymaint ac mae o’n gallu ac rydan ni yn gweld y byd trwy lygaid George.Beth yw’r themau amlycaf yn y cynhyrchiad? Mae yna lawer iawn o themâu yn plethu i mewn i’r cynhyrchiad yma ond y prif un rwy’n teimlo yw pobl eisiau perthyn. Dydi hi’m bwys pa mor wahanol wyt ti ac unigolion y byd, mae natur yn trio ei orau i annog ni i fod eisiau cysylltu ag unigolion eraill. Roedd George sicr yn unigolyn yn y byd oedd yn brwydro trwy’i fywyd i drio diffinio beth oedd hi’n ei olygu i fod yn garedig? Mentrodd ac astudio yn wyddonol trwy’r broses ac yna trio ei orau i helpu pobl digartref ond sylweddolodd yn y diwedd fod caredigrwydd yn rhywbeth sydd yn cychwyn ohonot ti dy hun. Mae angen i ti ffeindio dyngarwch ynot ti dy hun i dderbyn eraill.Pa un yw dy hoff ddelwedd weledol yn y cynhyrchiad? Y diwedd. Mae yna elfennau clasurol yn perthyn i’r gwaith ac roeddwn i’n teimlo cyfrifoldeb i barchu ymdrechion Dr George Price ar hyd ei oes. I gynnig diweddglo oedd yn caniatáu i bobl eisiau gofyn mwy o gwestiynau am yr unigolyn yma a sut ydan ni yn ymddwyn tuag at eraill mewn cymdeithas? Hefyd y pleser o weld George yn paratoi at ei ‘ddet’ yn rhoi gwen i’r wyneb wrth ei wylio.Beth oedd trefn arferol diwrnod o ymarfer? Rwy’n tueddu rhannu’r diwrnod ymarfer i bedwar rhan. Mae’n holl bwysig cynhesu fyny yn ddyddiol y corff/llais a’r seicoleg gan mai rhain yw arfau actorion i rannu stori ac i weithio ar y gwaith yn ddyfeisiedig gan fy mod yn tueddu cyfarwyddo’r gwaith corfforol yn ogystal erbyn hyn. Yna yn gweithio ar ddatblygu cymeriadau, yn dod i adnabod y cymeriadau mwy bob diwrnod a chanolbwyntio ar fyd y ddrama. Os ydan ni mewn parc yn ganol Chicago yn y 40au mae angen i’r actorion profi lluniau a theimlad y byd yma ac yn ogystal â hyn dadansoddi testun. Mae astudio’r sgript yn sicrhau fod yr actorion yn deall beth maen nhw eisiau gan y person arall trwy gydol y ddrama. Mae yna sawl haen i ‘r ddrama ac wrth dderbyn y cymhlethdod sydd yn perthyn i realiti’r cymeriadau mae actorion yn caniatáu eu hunain i fod yn agored a chyfoethog yn eu perfformiadau.Sut ddatblygwyd y cynllun ar gyfer y set? I gychwyn yn trafod themâu’r gwaith gyda’r cynllunydd ac yn trafod pwy oedd George Price a sut oedd o yn gweld y byd? Yna Erin Maddocks a finnau yn casglu llawer iawn o luniau, ‘installations’, cerddoriaeth yn dod i adnabod y ddrama mwy a mwy yn weledol yn caniatáu i set dyfu o gymeriad George Price. Roedd ‘bocsys’ a bod yn hafan George yn syniad cryf o’r cychwyn yna mater o drio allan wahanol fersiynau, syniadau, lliwiau o fyd George Price oedd hi wedyn a dewis a dethol wrth gadw’r cymeriadau yn agos i’r gwaith i helpu ni dyfu byd y ddrama.Pwy yw’r dylanwad mwyaf arnat fel cyfarwyddwraig? Dydw’i i erioed wedi bod yn un i edmygu un person yn unig, amrywiaeth sydd wastad wedi cadw fy nghreadigrwydd i fynd, trawstoriad o artistiaid. Yn y theatr rwy’n hoff iawn o waith Complicite, Robert Lepage, ysgol Jaques Lecoq a’r gwaith sydd yn cael ei greu ym Merlin ond hefyd mae artistiaid fel Tracy Emin yn ddylanwad. Gwaith rhyngwladol ac amrywiaeth sydd yn fy ysgogi. Gwaith heriol sydd yn gofyn llawer iawn o gwestiynau, yn ddychmygol ac yn gymdeithasol.Sut deimlad hoffet ti i’r gynulleidfa gael ar ddiwedd y cynhyrchiad? Mae beth bynnag mae’r gynulleidfa yn ei deimlo yn ddewis iddyn nhw a dwi’n siŵr y bydd unigolion yn teimlo pethau doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl. Ond yn fwy na dim i bobl fodeisiau gwybod mwy am George Price neu i sylweddoli o leiaf faint mae pobl yn barod i aberthu yn eu bywydau er mwyn eraill.Pa gynhyrchiad fyddet ti wrth dy fodd yn ei lwyfannu? Rwy’n hoff iawn o waith Ionesco, gwaith delweddol a synhwyrol ond hefyd mae sgwennu newydd hefyd yn broses rwy’n mwynhau. Y testun a’r stori sydd yn bwysig i mi ond ar y pegwn arall, profiadau amrywiol a dyfeisgar o sut mae cynulleidfaoedd yn mynd ati i wylio perfformiad sydd hefyd o ddiddordeb.Pa gynhyrchiad sydd wedi dy effeithio fwyaf? Drama sydd yn trafod y ffordd y rydan ni yn trin eraill sydd yn fy niddori ac yn dal sylw ar hyn o bryd. Mae yna lawer iawn o waith da wedi dod allan o’r Royal Court yn Llundain, ac mae cwmnïau sydd yn cynnig profiad newydd i gynulleidfa yn rhywbeth sydd yn fy atynnu hefyd. Er enghraifft gwaith ‘Shunt’ o dan bontydd, ac roedd egni diddiwedd ‘Beautiful Burnout’ gan Frantic Assembly y flwyddyn hon yn ysbrydoliaeth o faint y rydan ni yn gallu herio’r corff mewn perfformiad.