Holi ac ateb: Gwyneth Glyn
Dal fyny gyda'r awdur Gwyneth Glyn a holi am y profiad o sgwennu Ŵy, Chips a Nain.Disgrifia Ŵy, Chips a Nain mewn un frawddeg...Stori chwerw-felys sy’n archwilio perthynas Nain a’i hŵyr wrth i gyflwr dementia fynd â nhw ar antur.Oes gen ti atgofion melys o dy Nain?Mae fy atgofion i o Nain yn llythrennol felys - gan mai ei chofio hi yn y gegin ydw i’n bennaf, ei dwylo bach gwynion yn flawd, menyn a siwgr i gyd. Fyddai hi byth yn pwyso na mesur y cynhwysion - roedd synnwyr y fawd ganddi.Mi fyddai hi’n eistedd wrth yr Aga wedyn, yn tincian ei modrwy briodas ar ei chwpan de wrth fy ngwylio i’n mwynhau ei sgons bach cynnes hi.Beth wyt ti’n gobeithio bydd y gynulleidfa yn ei ddweud/trafod ar ôl gweld y sioe?Mi fydd unrhyw drafodaeth yn beth llesol, gan fod dementia a chyflyrau iechyd meddwl yn parhau i fod yn bynciau mae llawer o bobol yn eu cael yn anodd i’w trafod.Dwi’n gobeithio y bydd pobol yn gweld drwy’r cyflwr sy’n effeithio Nain, at y person, a’r berthynas sy’n goroesi.Pam mae sioe fel Ŵy, Chips a Nain yn bwysig - yn enwedig i gynulleidfa ifanc?Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yn onest efo cynulleidfa, yn cynnwys cynulleidfa ifanc, ynglŷn â’r realiti o fyw efo dementia - nad ydi o’n fêl i gyd, nag yn felan i gyd chwaith. Mae yna lawer y medrwn ni gyd ddysgu am y cyflwr, a’r peth mwya’ ydi peidio â bod ei ofn o.