Beth olyga HAWL i ti?“Fy hawl i fywyd, i ddewis, i weithio, i siarad fy iaith, i fod yn gydradd..Braint y diolchaf i’r rhai dewr am frwydro er fy mwyn i”
Ffion Dafis“Ma gan bawb yr hawl i gwestiynnu unrhyw gyfundrefn neu awdurdod sydd a’r gallu i ddylanwadu ar eich bywyd.”
Mark Flanagan“Mae gan pob Actor,canwr a pherfformiwr yr HAWL i wneud bywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ond dyddiau yma mai’n anodd!!”
Emyr Gibson “Dw i’n troi’r tap dwr mlaen degau o weithiau mewn diwrnod - a hwnnw’n ddwr glan gloyw o’r mynydd - heb wir werthfawrogi’r fath rhodd.Mae dros 800 miliwn o bobol y byd heb yr hawl hwnnw a ma’ hynny’n drychineb.”
Sian James“Hawl yw hewl ein plant”
Ryland Teifi“Mae gan ddigrifwr yr
#hawl i chwerthin ar ei jôc ei hun, os na does neb arall am wneud”
Tudur Owen“Cenedl heb iaith,cenedl heb galon.Gwlad heb dirlun,gwlad heb enaid.Plis gaf i’r hawl i fflamio ein ffermydd gwynt aneffeithiol a malu pob melin diwerth yng Nghymru? Diolch!”
Sian Lloyd“Mae hawl yn rhoi rhyddid i ni. Fel mam newydd, dwi’n gobeithio bydd fy merch yn gwerthfawrogi ei hawliau yn y dyfodol - hawliau na all merched mewn rhannau eraill o’r byd eu cymryd yn ganiataol” -
Branwen Gwyn “#hawl i wrando ar safbwyntiau pobl eraill” -
Emma Walford“HAWL - codi’r llen ar y gwirionedd a oedd wastad yno’n llechu….”
Fflur Dafydd “Pa Hawl sda fi gwyno bo’ batri fy ffôn ‘di rhedeg mas o’i sudd? Pan nad yw rhywrai’n gwbod o ble daw’r gwydred nesa o ddwr.” -
Llinor ap Gwynedd.Beth yw
#Hawl i’r awdur
@DewiPrysor ? “Pa fath o fyd sydd angen cyfraith i warchod hawl?”“Hawl cenedlaethau’r dyfodol i fyw mewn byd ag ynni glan digarbon nad yw’n cynhesu?”
Dafydd Elis-Thomas“Mae gen i’r hawl i gymryd risg; i wthio fy ffiniau corfforol, meddyliol ac emosiynol er mwyn gallu darganfod rhai newydd.”“Rhydd i bawb ei farn , ac i bob barn ei lafar ” , meddai’r hen air ”
Lowri MorganDyna un o’n hawliau sylfaennol , cael deud eich deud , mewn erthygl , araith , cân neu ddrama heb gael eich cyfyngu na’ch sensro gan neb -
Bryn Fôn “Roedd fy nain yn 28 cyn i ddeddf gwlad newid a rhoi iddi’r hawl i bleidleisio. Mae angen cofio’r hanes y tu ôl i’r hyn yr ystyriwn yn hawliau.”
Sian Northey Mae gen i hawl i fod yn deyrngar i fy hen ysgol #Rhydfelen ac i siarad ar ran y disgyblion - gan fod neb arall yn gwrando arnynt !”
Martyn Geraint“Mae ‘hawl’ i mi yn golygu y dylai pawb gael y rhyddid o ddweud eu deud heb gael eu herlid!”
Linda Brown“#Hawl ydi’r hyn sy’n fy ngwneud i’n gyfartal â chdi”
Karen Owen “Mae rhai’n mynnu bod eu hawliau nhw’n bwysicach na hawliau eraill. Mae rhai’n meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i fwynhau bywyd ar draul pobl eraill. Mae gen i’r hawl i anghytuno.”
Bethan Gwanas“I brofi hawl rhaid ei hawlio”
Ani Llŷn (cyflwynydd Stwnsh S4C)“Nid gwobr,
nid buddugoliaeth,
nid amod yw hawl
ond haeddiant…haeddiant na ddylid ei gamdrin yr un fordd na’r llall” -
Caryl Parry Jones“I fi ma’ Hawl yn golygu cael 4 botel o lager am ddim yn bob gig ‘dw i’n ’ neud”
- Griff Lynch“Ma’ gen i hawl i beidio tyfu mwsdash adeg Tashwedd, ond dwin gaddo y byswn i’n gallu…”
Griff Lynch“Mae gen i hawl gwylio Pel droed ar bnawn dydd Sul, er y gwrthwynebiad gan fy nghariad, achos dwi’n talu digon am Sky” -
Griff Lynch“Mae i pob un yr hawl i fod yn gydradd a chyfartal” -
Siw Hughes “#Hawl at the moon.Os da chi isio bod yn fleidd-ddyn, peidiwch bod ofn.Does dim bwled arian ddigon mawr i chwalu eich breuddwydion!”
Dyl Mei“Yr hawl i ddefnydio’r Gymraeg! #dwieisiaubywyngymraeg” #Hawl -
Sian Howys “Hawl yw yr hyn sy’n foesol ddyledus i ni mewn bywyd. Prin ddylai rhywun orfod gofyn am yr hyn sy’n hawl iddo, ond weithiau, rhaid brwydro.” -
Rhun ap Iorwerth“Mae gan bawb yr hawl i fod yn nhw eu hunain, a neb arall. A does gan neb arall yr hawl i beidio a derbyn hynny” -
Stifyn ParriFel ddwedodd cantores enwog unwaith - ‘Does gen ti ddim HAWL i roi pobl yn y cawl’
- Geraint Lovgreen“Dylai pawb fynnu eu hawliau, a’i briodi bob amser efo cyfrifoldeb” -
Dafydd Iwan