GWYN - Rhai ymatebion ...
"Un o'r cynyrchiadau plant fwyaf hudolus 'dw i wedi ei weld. Roedd o'n fendigedig. Eiddigeddus o bob plentyn bach sy'n mynd i gael gweld hwn" Mari Emlyn (GALERI)"Ro' ni'n meddwl fod o'n hudolus. Hyfryd! Ro' ni'n teimlo fel plentyn bach eto yn cael lot o syrpreisus bach" Rhian Cadwaladr"Ro' ni'n gwylio'r plant bach i gyd a'u cegau ar agor... Roedd o'n ffantastig! Doedd neb yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd nesaf"- Arweinydd Cylch Meithrin Seiont a Peblig - Eiriona Hughes."Am fore Sadwrn delfrydol. Hawdd a hyfryd. Diolch" - Siw Hughes"Mwynhau gymaint. Sioe hyfryd." Morfudd Hughes"I thought it was brilliant. Did not know what was coming next. Loved it." Cylch Beddgelert"Sioe hudolus llawn dychymyg. Werth ei gweld" Manon Wilkinson"Wel, am sioe anhygoel! Arbennig iawn. Y set yn wych, actio effeithiol a chymeriadau annwyl. Byd llawn hud a lledrith go iawn a hwynebau'r plant yn dweud y cyfan. Diolch" -Ysgol Bro Gwydir"Anhygoel. Sioe arbennig iawn llawn hwyl, Actorion gwych. Wedi mwynhau pob eiliad. Addysgiadol iawn ac yn addas ar gyfer dysgwyr. Eisiau ei gweld eto. Diolch am brynhawn hyfryd." - Lois - Ysgol Bro Gwydir."Diolch yn fawr iawn am berfformiad bendigedig. Roedd y plant wedi ymgoll yn llwyr ac wir wedi mwynhau eu hunain. Diolch yn fawr. Llinos Lloyd" - Ysgol Ysbyty Ifan."Cynhyrchiad artistig o'r radd flaenaf. Hollol wych. Profiad theatrig na fedrwn ni fel athrawon mo'i gyflwyno - ond sy'n cyfrannu yn werthfawr iawn at brofiad plentyn ifanc. Diolch o galon i bawb fu'n gyfrifol." Mrs. Owen - Llanddoged"Roedd clyfrwch y peth yn arbennig. Roedd gweld hwynebau'r plant yn y blaen yn anhygoel. Fel cyn-athro, 'dw i'n gobeithio y bydd pob ysgol yn y Gogledd yn cael ei gweld. Roedd o'n arbennig o dda. Mae eisiau eich canmol ar eich gwaith" - Selwyn Griffiths (Cynghorydd)