Gweithdy Gecko
Gweithdy perfformio, symud a dyfeisio gyda Gecko Theatre
Cyfle arbennig i berfformwyr a gwneuthurwyr theatr gogledd-gorllewin Cymru – gweithdy gyda Gecko Theatre!
Dan arweiniad perfformiwr dyfeisio profiadol iawn, Paul Smethurst, dyma gyfle i brofi arddull symud a theatr gorfforol unigryw Gecko, yn ogystal â chyfle i gael cipolwg ar y prosesau creadigol y mae perfformwyr dyfeisio Gecko yn eu defnyddio wrth greu sioe.
Am fwy o wybodaeth am waith Gecko: https://www.geckotheatre.com/
Dyddiad ac amser: Dydd Mercher 27ain o Fai, 10yb-5yh (egwyl cinio o awr)
Lleoliad: Nyth, Bangor
Cost: £45
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer unrhyw un dros 18 mlwydd oed, ac nid oes angen profiad perfformio blaenorol - dim ond tan ac awydd i ddyfeisio, symud a dysgu sgiliau newydd!
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y gweithdy – felly, cyntaf i’r felin!
Mae'r cyfle ar agor i 12 artist sy'n byw yng Ngogledd Cymru.
Bydd yr hwylusydd o Gecko Theatre yn arwain y gweithdy yn y Saesneg, ond bydd aelod staff Frân Wen yn rhan o’r gweithdy er mwyn cyfieithu a chefnogi unrhyw un sydd am fynegi yn y Gymraeg.
Mae'r gweithdy wedi ei sybsideiddio drwy ein Rhaglen Datblygu Artistiaid.