Pay Dd6
30.01.17

Gethin yn paratoi i ddyfeisio

Sgwrs gyda'r cerddor Gethin Griffiths, un o'r artistiaid sy'n rhan o'r cynhyrchiad Sigl Di Gwt.

Screen Shot 2017-01-30 at 14.23.00Trafod agweddau plant a phobl ifanc tuag at ffoaduriaid yw themâu Sigl Di Gwt - ac mae Gethin yn ymuno â'r perfformwyr Iwan Charles, Melangell Dolma a Mirain Fflur ar gyfer y sioe dyfeisiedig sy'n teithio ysgolion Gogledd Cymru yng Ngwanwyn 2017.Mae Theatr Dyfeisiedig yn fath o theatr lle nad yw'r sgript yn cael ei sgwennu gan awdur neu awduron, ond yn hytrach mae'n hi'n broses cydweithredol o greu (fel arfer gan yr artistiaid/perfformwyr).Sut wyt ti'n teimlo am y sefyllfa ffoaduriaid yn y byd heddiw?Mae pawb wedi gweld gymaint ar y newyddion am argyfwng y ffoaduriaid, ers blynyddoedd erbyn hyn. Mae pawb yn gyfarwydd â’r sefyllfa, ond eto, does dim modd deall yn llawn.Mae’n bwnc ac yn thema anodd i ymdrin ag o, ond mae hi'n holl bwysig ein bod yn ceisio gwneud hynny.Gan mai sioe dyfeisiedig ydi Sigl Di Gwt, pa fath o ymchwil mae'r criw wedi ei wneud?Yn ogystal â gwaith ymchwil ffeithiol am wleidyddiaeth y dwyrain canol, mae’n bwysig gwneud ymchwil i mewn i’r ffoaduriaid fel pobl hefyd.Sut maent yn teimlo? Pa fath o emosiynau? Mae hynny’n bwydo’r broses greadigol wedyn o greu perfformiad sydd yn cynrychioli’r sefyllfa mor fyw â phosib.Sut brofiad ydi gweithio ar brosiect dyfeisio fel Sigl Di Gwt?Dwi wedi ysgrifennu ambell gân neu ambell ddarn o gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad o’r blaen, ond erioed wedi cael gymaint o ryddid i greu cerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad cyfan. Bydd hynny’n bleser ac yn sialens ar yr un pryd - does dim byd yn codi ofn fel darn o bapur gwyn weithia’!Mae Frân Wen am fy ngwahodd yn ôl (Getin oedd Cyfarwyddwr Cerdd Sbri 3) i weithio ar brosiect mor gyffrous a heriol a dwi’n hynod ddiolchgar. Efallai y buasai’n well gofyn i mi sut ydw i’n teimlo ar ôl yr holl waith dyfeisio!Dwi’n dod ag ychydig o sgiliau gwahanol i’r tîm, fel cerddor ac fel perfformiwr, ond mae ‘na berfformwyr llawer mwy profiadol na fi yn rhan o’r tîm, sydd yn ddefnyddiol iawn i mi gael dysgu ganddynt. Mae’n holl bwysig cael cydbwysedd rhwng aelodau’r tîm, o ran arbenigedd, ac o ran personoliaeth.Pa fath o rôl bydd sain/cerddoriaeth yn cymryd yn Sigl Di Gwt?Mae’n bwysig cael y cydbwysedd rhwng chwarae cerddoriaeth byw, cerddoriaeth wedi ei recordio, ac hefyd, yn bwysicaf oll - distawrwydd. Bydd sain a cherddoriaeth yn cefnogi’r perfformiad, ond yn gynnil a ddim yn tynnu gormod o sylw, gobeithio! Wedi dweud hynny, mi y faswn yn hoffi petae’r plant yn cofio’r elfennau cerddorol wedi iddynt adael y perfformiad.*Sigl Di Gwt | 28 Chwef - 7 Ebrill 2017*