Pay Dd6
30.09.20

Galwad Ensemble Faust

18 > 25 OED: ENSEMBLE CYNHYRCHIAD NEWYDD, FAUST Cyd-gynhyrchiad Frân Wen, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio.DIDDORDEB BOD YN RHAN O DÎM CREADIGOL FYDD YN CREU CYNHYRCHIAD PROFFESIYNOL?Mae Frân Wen, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio, yn chwilio am 20 person ifanc rhwng 18 a 25 oed i ymuno ag ensemble ein cynhyrchiad nesaf sydd wedi'i ysbrydoli gan y clasur Almaeneg, Faust.NID ENSEMBLE ARFEROL…Bydd ensemble Faust wrth wraidd y tîm creadigol o'r diwrnod cyntaf.O'r ysgrifennu, dyfeisio, creu ac ymarfer, byddwch chi yn rhan annatod o gyflwyno'r cynhyrchiad rhyngweithiol sydd wedi ei ysbrydoli gan y chwedl glasurol Almaeneg.Rydan ni’n chwilio am unigolion sy’n barod i ddweud eu dweud, i daflu'r cwbwl mewn i'r pot, i gydweithio er mwyn creu rhywbeth anhygoel gyda'n gilydd.Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau ac ymarferion yn ardal Porthaethwy / Bangor.CYSYNIAD FAUSTBydd Faust yn dod â chymuned o gyfranogwyr ifanc ac actorion proffesiynol at ei gilydd i archwilio’r stori lle mae dyn yn gwerthu ei enaid i’r diafol wrth geisio pŵer a phrofiadau sydd yn gwthio ffiniau i’r eithafion.Bydd y gynulleidfa yn cael eu rhyddhau a’u cymell i brofi teimladau hollol unigryw. Byddant yn cael eu harwain i fyd hudolus a thywyllodrus Faust lle bydd trywydd y stori yn eu dwylo nhw.O dan gwmwl Covid, nid oes sicrwydd eto sut y byddwn yn rhannu’r cynhyrchiad gyda’r gynulleidfa. Ond dyna ydy’r apêl a dyna sy’n gwneud y profiad yn wirioneddol arloesol a chyffrous.SUT I YMGEISIO?Anfonwch baragraff, fideo, cân neu unrhyw ddull creadigol arall i post@franwen.com i esbonio pam rydych chi eisiau fod yn rhan o ensemble Faust.Bydd gofyn i unrhyw un sydd isio bod yn rhan o dîm Faust fynychu UN o'r sesiynau blasu ar-lein:Sesiwn Blasu #1: Dydd Sadwrn, 10 Hydref. 11am – 1pm Sesiwn Blasu #2: Dydd Sadwrn, 24 Hydref. 11am – 1pmDYDDIAD CAU MYNEGI DIDDORDEB FAUST: 26 Hydref 2020. Bydd cynigion i aelodau’r ensemble yn cael eu rhannu ar y 10 Tachwedd 2020.DMiwch Nia Hâf neu Frân Wen ar Insta Twitter, Facebook neu ebostiwch post@franwen.com am ragor o fanylion.