Galwad agored: Twrw Dan a Dicw
Mae Frân Wen yn falch o gyhoeddi galwad castio agored ar gyfer Twrw Dan a Dicw - cynhyrchiad newydd sbon i blant rhwng 3 – 7 oed.Mae Twrw Dan a Dicw yn dilyn stori cyfeillgarwch swynol a hudolus dau berson o fydoedd hollol wahanol i’w gilydd a’u taith o ddod i nabod yr anghyfarwydd drwy chwarae a cherddoriaeth.Cynhyrchiad: Twrw Dan a Dicw
‘Sgwennwr: Manon Steffan Ros
Cyfarwyddwr: Elgan RhysDYDDIADAUClyweliad: 26 Mehefin 2018 ym Mhorthaethwy neu 29 Mehefin 2018 yng NghaerdyddDatblygu ac Ymchwilio: 21 – 23 Awst 2018Ymarferion: 8 Hydref – 2 Tachwedd 2018Perfformiadau (Taith): 5 Tachwedd – 14 Rhagfyr 2018LLEOLIADPorthaethwy (Ymarferion), Gogledd Cymru (Taith).FFIOEDDBydd ffi o £100 y dydd / £500 yr wythnosBydd unrhyw lwfansau adleoli neu gymudo yn cael eu talu yn unol â Chyfraddau ITC / Equity ar gyfer 2018-19.PERFFORMWYRWele manylion castio ar gyfer y ddau berfformiwr.Perfformiwr 1:• bachgen neu merch
• rhwng 20 – 30 oed
• yn gyfforddus i ddyfeisio
• yn gyfforddus gyda sgiliau symud
• yn gallu chwarae offeryn ac yn / neu’n gallu canu
• gyda profiad o weithio a chreu gwaith i gynulleidfaoedd ifanc
• yn siarad CymraegPerfformiwr 2:• fel yr uchod, ond ddim yn anghenrheidiol ei fod ef / hi yn gallu siarad Cymraeg.Byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddarpariaethau gofynnol, yn ystod clyweliad ac yn y gwaith, i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i'r cyfle hwn. I drafod sut y gallwn fodloni eich gofynion mynediad neu anghenion ychwanegol, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.GWNEUD CAISOs hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cynhyrchiad hwn, anfonwch e-bost gyda:• Eich CV / linc Spotlight
• Llun pen
• Brawddeg neu ddau yn cyflwyno eich hunan, a beth sy’n eich denu i berfformio’n rhan o’r cynhyrchiad hwn.Gyda'r llinell pwnc 'Castio: Twrw Dan a Dicw' i elgan@franwen.com erbyn 6yh ar 21 Mehefin.Cofiwch nodi ym mha leoliad hoffwch gael ei clyweld ac os hoffech gyfarfod yn y bore neu’r prynhawn.