Frân Wen yn chwilio am reolwr prosiect
*Ail hysbyseb*Mae Frân Wen yn awyddus i benodi Rheolwr Prosiect profiadol a chymwys gyda phrofiad helaeth o reoli prosiectau o fewn sector y celfyddydau, ac yn arbennig datblygiadau cyfalaf, i gydweithio â nhw i ddatblygu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy.Yn dilyn cwblhau Astudiaeth Dichonolrwydd llwyddiannus, mae Frân Wen yn awyddus i wireddu cam nesaf eu datblygiad cyfalaf sylweddol ‘Nyth’ (RIBA Cam 3).Croesewir ceisiadau erbyn 1 Mehefin 2018 a dylid eu cyflwyno drwy’r porth Gwerthwch i Gymru.Y ffi ar gyfer y gwaith yw £25,000 ag eithr TAW.Cynhelir cyfweliadau ar 8 Mehefin 2018.