Flash Banner
25.01.23

Flash CIFW

Sêl 24 awr CIFW

Dydd Iau yma, y 26ain o Ionawr, bydd ffenest recriwtio Cwmni Ifanc Frân Wen ar agor am 24 awr yn unig.

Cofrestra fa’ma - mae o'n hawdd, ac yn rhad ac am ddim i ymuno.

Mae CIFW yn creu theatr sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.

Maen aelodau CIFW yn cyfarfod yn wythnosol a thrwy gydol y flwyddyn, ac yn:

  • Creu, cynhyrchu a rhannu theatr, gan gydweithio hefo artistiaid proffesiynol gorau Cymru.

  • Datblygu dychymyg, hyder, a sgiliau creu a dyfeisio trwy weithdai rhannu sgiliau a dosbarthiadau meistr.

  • Ymweld â theatrau ar draws y DU, i brofi cynhyrchiadau theatr newydd a chael ein ysbrydoli.

  • Chwarae rhan bwysig ym mhenderfyniadau rhaglennu a llywodraethu Frân Wen.

Mae holl waith Cwmni Ifanc Frân Wen yn bwydo mewn i'n rhaglen artistig ni.

Mae 'na ddau grŵp sy'n cyfarfod yn wythnosol.

Mae CIFW 1 (blynyddoedd 8 - 10) yn cyfarfod ar ddydd Mawrth a CIFW 2 (blynyddoedd 11 - 13) ar ddydd Iau.

Mae'r aelodau ar fin dechrau creu cynhyrchiad byw ar gyfer Ebrill 2023.

Pryd?

Mae ffenest recriwtio yn agor am 24 awr ar y 26ain o Ionawr.

Sud?

Cofrestra fa’ma - mae o'n hawdd, ac yn rhad ac am ddim i ymuno.

GWYBOD MWY AM
CIFW
Mwy