Mae'r tîm artistig ar gyfer prosiect iechyd meddwl Fi di Fi wedi cael ei gyhoeddi.
Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu denu artistiaid mor flaenllaw i'r prosiect - rhai sy'n gyfarwydd iawn â gweithio gyda'r cwmni ac eraill sy'n wynebau newydd sy'n wych. Yr artistiaid ydi
Cêt Haf, Branwen Haf, Catrin Mara, Martin Thomas, Erin Madocks, Gruff Ab Arwel ac Osian Williams.Bydd y prosiect peilot yma yn cynnal sesiynau yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog yn ystod mis Mawrth.
Nod ac amcan y prosiect:▪ Gwella dealltwriaeth o hunan les▪ Annog empathi ymysg cymheiriaid▪ Datblygu sgiliau mewn amryw o feysydd celfyddydol▪ Adnabod y celfyddydau fel cyfrwng mynegiant▪ Mwynhau, adnabod a dathlu llwyddiant