Pay Dd6
26.03.19

Ffurfiau

https://youtu.be/rGW78k5kK1cCrëwyd 'Ffurfiau' gan Jess Balla fel rhan o gyfle creadigol a gynigir gan Pontio Bangor i gyd-fynd â datblygiad ein drama Anweledig gan Aled Jones Williams.

Mae'r gwaith yn ymateb i'r themâu a'r delweddau sydd yn y ddrama, a gafodd ei hysbrydoli gan gofnodion meddygol o ysbyty iechyd meddwl Dinbych. Mae'r ddrama'n dilyn ing personol ffyrnig Glenda wrth iddi wynebu ei salwch cudd a bywyd y tu allan i'r ysbyty.

Mae'r môr yn fotiff ailadroddus yn y ddrama ac yn Ffurfiau, gan gynnig gobaith i Glenda. Mae animeiddiad rotosgop Jess wedi cael ei osod dros haenau o glipiau ffilm o donnau a thirluniau anghysbell, a wnaethpwyd gan ei chyd-wneuthurwr ffilmiau Casey Raymond. Daw hyn â delweddau Aled Jones Williams yn fyw iawn. Mae'r trac sain, a grëwyd gyda chydweithrediad Danny Martin (Anelog), yn cynnwys recordiadau llais o'r cynhyrchiad ac mae hyn ynghyd â'r delweddau trawiadol yn rhoi profiad dirdynnol i'r gynulleidfa.The Shape of It Jessica Balla