Faust + Greta: Profiad theatr digidol, arbrofol ac unigryw i gynulleidfaoedd Cymru.
Rydym yn falch o gyhoeddi manylion ein cyd-gynhyrchiad newydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio,
Faust + Greta. Wedi’i ddyfeisio gan ensemble o 13 o bobl ifanc, bydd y perfformiad theatr digidol hwn – sy’n cynnig profiad gwylio hollol unigryw – yn cael ei ffrydio’n fyw o Theatr Bryn Terfel, Pontio, ar 18–20 Mehefin 2021.Gan ddwyn ysbrydoliaeth o drosiad Cymraeg T. Gwynn Jones o glasur Goethe, mae’r tri sefydliad wedi dod ag ensemble o bobl ifanc 17–25 oed o ogledd-orllewin Cymru at ei gilydd i ddyfeisio a pherfformio’r darn. Ers mis Tachwedd 2020, mae’r ensemble ifanc wedi ymwneud â phob elfen o Faust + Greta, wrth iddyn nhw ymgymryd â’r dasg o lwyfannu cynhyrchiad sy’n cael ei ffrydio’n fyw, drwy gyfres o weithdai ac ymarferion. Bellach, mae’r ensemble – dan ofal cyfarwyddwyr y cynhyrchiad, Nia Lynn a Gethin Evans – wedi datgymalu’r stori wreiddiol gyfarwydd a’i hail-ddweud o bersbectif Cymry ifanc heddiw.Wedi’i llwyfannu mewn theatr wag, bydd Faust + Greta yn cofleidio cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol i gynnig profiad theatr digidol arbrofol, gyda chyfuniad o onglau camera gwahanol ar y sgrin yr un pryd, yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ymgolli ym mhob agwedd o’r stori. Yn ogystal â manteisio ar arbenigedd y cyfarwyddwyr Nia Lynn a Gethin Evans, bydd cyfle i’r ensemble ifanc weithio gyda thîm creadigol penigamp sy’n cynnwys y canlynol: Elin Steele (Cynllunydd Set a Gwisgoedd); Ceri James (Cynllunydd Golau); Sam Jones (Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain) a Nico Dafydd (Cynllunydd Cynnwys Digidol).Yn fuan, byddwn hefyd yn cyhoeddi enwau’r ensemble ifanc a hefyd yr actorion proffesiynol fydd yn ymuno â nhw i berfformio’r darn ac i wireddu’r uchelgais.Mae tocynnau i’r profiad digidol hwn bellach ar werth ar-lein:
pontio.ticketco.eventsDywedodd Ifan Pritchard, sy’n aelod o’r ensemble ifanc:
“Ma’ Faust yn glasur, ond hefyd yn estyn llaw at gymaint o bosibiliadau i greu ein byd bach cyfoes ein hunain o fewn byd y gwreiddiol. Dwi’n gobeithio y bydd be ’da ni am greu yn cynrychioli’r cymeriadau gwreiddiol yn ogystal ag uniaethu’r cymeriadau o’n sefyllfaoedd ni fel pobl ifanc yn byw yn 2021.”
Dywedodd Nia Lynn, cyd-gyfarwyddwr y cynhyrchiad:
“Dwi wedi gweithio gyda thestunau clasurol ers nifer o flynyddoedd gyda llawer o gwmnïau gwych ac mewn nifer o sefyllfaoedd eithriadol. Serch hynny, mae'r egni, gwreiddioldeb a'r perthnasedd mae'r cwmni hwn o bobl ifanc wedi'u darganfod yn Faust + Greta yn ysbrydoliaeth pur. Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gydag ensemble mor ddiwyd, galluog ac artistig, a chyda thîm creadigol arbennig sydd wedi rhagori ar yr holl brosesau. Mae'r safon o greu theatr yng Nghymru wedi'i drawsnewid, a fedra i ddim aros i weld a rhannu'r cynnyrch gyda chi.”
Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen a chyd-gyfarwyddwr y cynhyrchiad:
“Dwi wedi fy ysbrydoli gymaint gan yr ensemble yma, y tîm creadigol a chyfieithiad hudolus T. Gwynn Jones. Wedi misoedd o drafod, creu a chysylltu, dwi’n gyffrous iawn ein bod ni’n gallu rhannu’r fersiwn cyfoes yma o’r clasur o safbwynt pobl ifanc gogledd orllewin Cymru heddiw. ‘Da ni wedi cael ein harwain gan yr ensemble ifanc, ac yn hynod ddiolchgar am eu gwaith egnïol a ffres. Mae wedi bod yn fraint cydweithio â Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio yn ystod amser mor heriol, i ail-ddiffinio’r testun yma a darganfod ffyrdd newydd o rannu theatr Gymraeg â chynulleidfaoedd.”
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn arbennig o falch o allu cydweithio efo Frân Wen a Pontio, ar adeg sydd mor heriol i bawb sy’n gweithio ym myd y theatr, yn gwmnïau a chanolfannau o bob math. Ac mae gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc er mwyn creu digwyddiad theatr wastad yn sicrhau gwreiddioldeb ac ongl anghyffredin; dwi ddim yn cofio adeg yn hanes y cwmni pan mae hynny wedi bod mor wir ag ydyw gyda’r cynhyrchiad hwn. Ar ben hynny, mae hi’n uchelgais gyson gan Theatr Gen i gyflwyno clasuron mewn ffordd annisgwyl, ac rwy’n falch iawn o allu dweud na welwyd Faust fel hyn erioed o’r blaen!”
Ychwanegodd Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Pontio:
“Mae wedi bod yn hollol anhygoel gweld y project hwn yn datblygu a dwyn ffrwyth a dwi’n gyffrous iawn i brofi’r cynhyrchiad gorffenedig. Wedi holl sialensiau’r flwyddyn ddiwethaf, dwi mor falch ein bod fel tri chwmni wedi cydweithio ar gysyniad mor arloesol, sydd wedi ennyn cryn ddiddordeb yn barod - a hynny ar draws Cymru a thu hwnt. A hithau’n flwyddyn Cymru a’r Almaen Llywodraeth Cymru, mae’n addas iawn ein bod yn llwyfannu addasiad gan T. Gwynn Jones o waith Goethe, un o awduron enwocaf yr Almaen. Dyma broject a chynhyrchiad, dwi’n sicr, fydd yn aros yn hir yn y cof!”
FAUST + GRETA: 18 - 20 MEHEFIN 2021