Enwebiadau i Drych yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016
Mae'r ddrama Drych gan Frân Wen wedi derbyn 3 enwebiad yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016.Mae'r awdur ifanc Llŷr Titus wedi ei enwebu fel Dramodydd Gorau yn y Gymraeg, Bryn Fôn fel Perfformiad Gwryw gorau yn y Gymraeg, ac mae Gwenno Hodgkins wedi ei henwi yn y categori Perfformiad Benyw Gorau yn y Gymraeg.Meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen: "Mae'n anrhydedd mawr i ni gael ein cydnabod yn y gwobrau hyn. Gyda'r safon uchel o enwebeion, mae Gwobrau Theatr Cymru eleni yn argoeli i fod y gorau eto.""Mae Frân Wen yn rhoi pobl ifanc wrth galon popeth felly 'da ni'n hynod o falch gweld Llŷr Titus, ar ôl dod drwy ein rhaglen ysgrifenwyr ifanc Sgript i Lwyfan, yn cael ei enwebu."Wedi ei gyfarwyddo gan Ffion Haf, fe aeth y ddrama llwyfan i 14 lleoliad gwahanol yn ystod ei thaith genedlaethol ym mis Hydref."Rhaid cofio hefyd bod y criw technegol, a fu'n cydlynu'r daith gyfan, i gyd o dan 25 oed," ychwanegodd Iola.Mae Llŷr, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn disgrifio Drych fel "adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth".Meddai Llŷr: "Braf iawn oedd clywed mod i wedi fy enwebu, go brin fod yn rhaid dweud mod i'n hapus iawn ar hyn o bryd, mae'n anrhydedd mawr cael i fod ymhlith talent o'r fath!"Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Sherman Cymru yng Nghaerdydd ar Ionawr 30.