Pay Dd6
13.02.17

Enwebaid i Dilyn Fi yng Ngwobrau Theatr Cymru.

Yn seiliedig ar stori wir am ferch fach yn camu mewn i fyd dychmygol ac yn smalio bod yn eliffant, mae Dilyn Fi wedi ei enwebu am y Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017.

theatr, cymraeg, plant, sioe"Yn dilyn y rhediad llwyddiannus yng Ngŵyl Fringe Caeredin a thaith genedlaethol, mae'n anrhydedd mawr i ni gael ein cydnabod yn y gwobrau hyn. Da ni'n cymryd ein theatr i gynulleidfaoedd ifanc o ddifrif sy'n golygu ein bod ni yn ei drin gyda'r parch mae'n ei haeddu," meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.Cymerodd yr awdur Sarah Argent yr ysbrydoliaeth am y sioe ar ôl genedigaeth ail blentyn ei chwaer nôl yn 1995."Yn dilyn genedigaeth brawd bach newydd, fe fyddai fy nith yn treulio bob dydd yn actio fel eliffant - bwyta, cysgu, chwarae - dyma oedd ei ffordd hi o ddelio â'r teimlad o ddadleoli," meddai'r dramodydd o Gaerdydd."Dwi wedi bod yn disgwyl 21 o flynyddoedd i rannu'r stori yma ond roedd o werth y disgwyl!" ychwanegodd Sarah.Sêr y sioe i blant dan 7 oed oedd y ddawnswraig/perfformiwr Cêt Haf o Aberystwyth a'r actor Elgan Rhys o Bwllheli.Ychwanegodd Iola: "Mae safon yr enwebeion yng Ngwobrau Theatr Cymru eto yn adlewyrchiad o'r ansawdd uchel ym myd theatr yng Nghymru."Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe ar Chwefror 25.