Pay Dd6
06.05.14

Dyfodol disglair i'r Stiwdio newydd

ImageStiwdio cyfryngau digidol wedi agor i unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y cyfryngau digidol.Mae Stiwdio Frân Wen ym Mhorthaethwy yn gwahodd unigolion di-waith rhwng 16 - 18 mlwydd oed i gofrestru am y cwrs proffesiynol 12-wythnos mewn dylunio i’r rhyngrwyd, graffeg symudol, golygu fideo a dylunio graffeg.Ariannir y fenter gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chymunedau’n Gyntaf gyda’r uchelgais o gynnig cyngor a hyfforddiant i bobl ifanc ar ddatblygu gyrfa hunangyflogedig ym maes cyfryngau creadigol yng Ngogledd Cymru.Stiwdio Frân Wen yw dyfais cwmni theatr Cwmni’r Frân Wen ac arbenigwr cyfryngau digidol Rob Spaull.Dywedodd Nia Jones, Rheolwr Gweithredu Cwmni’r Frân Wen: “Ym 2009 fe wnaethon ni sefydlu Pontio’r Bwlch, prosiect sydd yn cynnig gweithdai celfyddydau creadigol i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg neu gyflogaeth. O ganlyniad fe ddaeth i’r amlwg fod cynnydd sylweddol yn y gofyn am gyfryngau creadigol digidol ac felly aethom ati i sefydlu stiwdio hyfforddiant ein hunain.“Fe fydd Stiwdio Frân Wen yn cymryd cam ymhellach gan nid yn unig cynnig hyfforddiant proffesiynol ond hefyd i roi’r cyfle i ddatblygu busnes cyfryngau digidol.”Rob Spaull o MediaPod ym Mae Colwyn fydd yn gyfrifol am redeg y stiwdioDywedodd Rob: “Mae’r model yn wahanol iawn i gyrsiau traddodiadol oherwydd fe fyddwn yn gweithredu fel stiwdio cyfryngau digidol proffesiynol gyda chleientiaid a gwaith go iawn – a’r cyfle i weithio o fewn cymuned celf fywiog Gogledd Cymru.“Os oes rhywun yn edrych am gychwyn ar yrfa yn y diwydiant yna fe ddylai Stiwdio Frân Wen fod o ddiddordeb mawr i chi. Sail y fenter yw’r ffaith nad yw addysg o reidrwydd at ddant pawb – nid oedd Bill Gates, Albert Einstein, Walt Disney na Pink yn academyddion ond maent wedi llwyddo newid y byd o’n hamgylch.”Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ewch i www.stiwdiofranwen.co.uk neu ffonio 01248 715048.