
Mae Frân Wen yn dathlu
#DyddMiwsigCymru heddiw gyda 'playlist' arbennig o ganeuon:
Dydd ar ol Dydd gan Big Leaves
Braint cael Rhodri Sion a Osian Gwynedd yn gweithio gyda ni ar y cynhyrchiad
Saer y Sêr - felly pa well gân 'na Dydd ar ol Dydd gan Big Leaves. Mae hon yn haeddu'r hashnod
#tiwn:https://www.youtube.com/watch?v=7-wWTGfYJac
Undegpedwar gan Y Niwl
Cyfansoddwr cerddoriaeth sioe
Dilyn Fi, ein sioe diweddaraf, yw Gruff Ab Arwel - mae Gruff yn aelod o'r band Y Niwl. Dyma 'da chi'n galw cân:https://www.youtube.com/watch?v=hLZPdHn0RQo
Bodoli'n Ddistaw gan Candelas
Gig
Sbectol. Caernarfon. Gorffennaf 2015. Digwyddiad byw bythgofiadwy (sydd wedi ei enwebu yng Ngwobrau Selar 2016 gyda llaw). Candelas ar y llwyfan. Neuadd y Farchnad llawn dop. Perfformio hon. Da!https://www.youtube.com/watch?v=pJhYDNVjwLE
Meibion y Fflam gan Sobin a'r Smeiliaid
Cafodd Bryn Fôn ei enwebu am Actor Gorau yn y Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 am ei berfformiad yn
Drych eleni - ac mae o'n dipyn o ffefryn yma yn y swyddfa gan
Olwen:https://www.youtube.com/watch?v=TdnuIKIJbZQ
Celwydd Gola Ydi Cariad gan Cowbois Rhos Botwnnog
Roedd Branwen Williams yn un o'r 8 artist ym mhrosiect
Fi Di Fi - mae Branwen yn aelod o Cowbois Rhos Botwnnog. Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn rili dda. Mae'r gan Celwydd Gola Ydi Cariad yn rili dda:https://www.youtube.com/watch?v=2LQYNWVBgKgMwynhewch gweddill
#DyddMiwsigCymru